Yr olaf i agor: Y diwydiant harddwch
- Cyhoeddwyd
"'Da ni'n gwneud mwy na jest gwneud gwinedd neu 'facials'; 'da ni'n rhan o'r therapi hefyd."
Y sector harddwch yw un o'r diwydiannau olaf i agor oherwydd y pandemig Covid-19.
Mae'r locdown wedi cael effaith fawr ar ddiwydiant sy' werth bron i £30bn y flwyddyn i economi Prydain ac sy'n cyflogi 15,000 yng Nghymru.
Mae'n ddiwydiant sy' wedi ei dargedu'n bennaf at fenywod ac yn cyflogi menywod yn bennaf ac mae rhai yn teimlo'n rhwystredig fod tafarndai a siopau wedi cael agor ond ddim busnesau harddwch tan 27 Gorffennaf.
Bu Cymru Fyw'n siarad â rhai o fewn y diwydiant i glywed am effaith y locdown ar eu gwaith a'u bywydau.
Colli swydd
Mae Rebeca Rowlands o Bwllheli wedi colli ei gwaith mewn salon harddwch yn y pandemig ac wrthi'n sefydlu busnes harddwch newydd.
"Oedd na bedair ohonan ni'n gweithio mewn salon yn Pwllheli a phan ddaeth y locdown 'nathon ni gael furlough. Daeth ebost (gan fos Rebeca) ar ôl rhyw dri mis yn dweud bod hi methu cadw'r un ohonon ni 'mlaen," meddai.
"Oedd o'n sioc achos doeddan ni ddim wedi clywed llawer o ddim.
"Am bod ni ddim rili yn gwybod be' oedd o'n blaenau ni o'n i'n meddwl mai ychydig o wythnosau fyddan ni ffwrdd.
"'Da ni wedi treulio drwy'r locdown yn meddwl lle ydyn ni'n sefyll, ydan ni'n mynd yn ôl?"
Mae un o'r staff wedi mynd i weithio mewn salon gwallt a Rebeca ac aprentis o'r salon wedi penderfynu sefydlu busnes gyda'i gilydd.
Mae'n nhw wrthi'n ailwneud salon ac yn gobeithio agor ddechrau Awst.
"Dw i wedi bod yn reit bositif a 'da ni wedi meddwl fod pob dim yn digwydd am reswm," meddai Rebeca.
Rhoi hyder
"'Da ni'n gwneud mwy na jest gwneud gwinedd neu facials; 'da ni'n rhan o'r therapi hefyd.
"Mae lot yn siarad a deud be' sy' ar eu meddwl nhw... mae bob dim sy'n cael ei ddweud yn confidential ac maen nhw'n agor fyny i ni a bwrw eu bol.
"Mae'n therapi yn ei hun. Mae o'n mynd yn bellach na jyst harddwch."
Olaf i agor
Maen nhw'n ddiwydiant sy'n defnyddio PPE beth bynnag, meddai Rebeca.
"'Da ni'n defnyddio'r menig a'r masgs yn gwaith. Mae hygiene yn y salon 'fath a lle doctor, mae'r lle fel pin mewn papur - mae dipyn bach yn insulting fod yr MPs 'ma 'di bod yn chwerthin ar ein pennau ni.
"'Da ni'n un o'r llefydd mwya' glân a saff," meddai.
Rhwystredigaeth
Mae Emma Hughes yn rhedeg busnes harddwch ym Mhorthaethwy ac yn arbenigo mewn triniaethau harddwch i'r wyneb.
"Dw i 'di arfer gwisgo menig a masg a apron," meddai.
"'Da ni'n sterilisio bob dim rhwng cleiants. 'Da ni 'di bod yn barod am y coronafeirws erioed!
"Mae'n saffach na mynd i pyb. 'Da ni'n teimlo'n frustrated a confused sut mae'r Llywodraeth yn penderfynu ar y llefydd sy'n agor gynta'.
"Dw i'n cymryd mai lawr i be sy'n dod â mwya' o bres i'r economi ydy o.
"Dw i ddim yn meddwl bod nhw wedi sbïo mewn i'r peth digon. Mae'r sector harddwch werth biliynau.
Gwerth harddwch
"Maen nhw'n meddwl mai jyst vanity ydy o, dydi o ddim yn bwysig a gewn nhw agor reit ar y diwedd.
"Dw i'n gwneud lot o microbladio eyebrows pobl sy'n mynd trwy cemotherapi... pethau sy'n gadael nhw heb confidence.
"Mae'n effeithio mwy na jyst vanity. Mae'n rhoi hyder i ti."
Ansicrwydd
"'Da ni di cael dyddiad (agor) sef 27 Gorffennaf - ond 'nath Mark Drakeford ddim deud dim byd arall.
"Mae pawb 'di chwilio am guidelines a dw i ofn bydd o'n dweud fydd restrictions ar driniaethau gwyneb.
"Mae wedi cymryd wythnos i bwcio pobl mewn ond bydd rhaid i fi ganslo'r bobl 'na i gyd os oes restrictions.
"Mae'r Alban wedi agor heb restrictions a dw i'n gobeithio fod Mark Drakeford ar yr un wavelength.
Rhwystredigaeth
"Oedd y locdown yn iawn achos oeddet ti'n cael bod adre efo dy deulu ond wedyn oeddet ti'n gweld llefydd yn dechre agor a ddim ni ... a pethe sy' ddim yn neud sens fel pêl-droed heb social distancing a pybs yn agor - lle 'da ni yn le rili saff i ddod i eniwe.
"Dw i'n rili frustrated a blin - dw i'n meddwl dylen ni bendant 'di cael agor cyn y pybs. Dw i'n teimlo fod nhw'n testdrivio petha ac agor petha yn araf ond wedyn achos bod ni ola' mae pob dim arall wedi cael eu testio a falle mynd yn rong fel pybs.
"Erbyn da ni'n agor ydy pob dim yn mynd i gael eu cau lawr eto?"
'Diwydiant pwysig'
Mae Sioned Llewelyn Williams wedi sefydlu grŵp ar Facebook o'r enw Croen i drafod materion harddwch ac mae nifer o weithwyr y diwydiant wedi bod yn rhannu profiadau gyda'r grŵp.
"Ymddengys nad ydi'r diwydiant a'r sector harddwch yn cael eu cymryd o ddifrif," meddai.
"Mae'n ddiwydiant pwysig sy' werth tua £200 miliwn yng Nghymru ac yn cyflogi 15,000 o bobl, y mwyafrif yn ferched ar draws Cymru.
"Er hyn, nhw ydi'r diwydiant olaf i gael agor a chael unrhyw ystyriaeth.
"Dwi'n credu fod y gair harddwch yn gamarweiniol iawn gan fod y salons yma yn gwneud gwaith llawer pwysicach na hyn i ddiwallu anghenion menywod yn ogystal â dynion a phobl ifanc yn eu harddegau sy'n diodde o gyflyrau megis acne.
"Mae'r menywod yma sydd yn mynd drwy driniaethau sy'n golygu eu bod yn colli eu gwallt amrannau ac eiliau yn dibynnu ar y triniaethau yma er mwyn iddynt deimlo ac ymdopi â'r hunlle maent yn mynd drwyddi ag ennyn 'chydig o'u hunan-barch a hyder.
"Mae'n annheg iawn sut y maent wedi eu trin. Tybed fyddai busnesau ar gyfer dynion ac yn cael eu rhedeg gan ddynion yn cael yr un driniaeth? Fasa 'ddowt' gennai.
"Dwi wedi bod yn annog dilynwyr Croen yn ystod y cyfnod yma i brynu tocynnau anrheg gan y salons yma, neu dalu rhagblaen am driniaethau fel eu bod yn derbyn rhyw fath o incwm.
"Yn anffodus dyna'r oll y gallwn wneud."
Y Llywodraeth
Does dim canllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y sector harddwch a thrin gwallt, ond mae disgwyl i'r busnesau ddilyn cyfreithiau ymbellhau cymdeithasol pan fyddan nhw'n cael ailagor pan fydd cyfyngiadau'r cyfnod cloi'n cael eu llacio.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford wrth gyhoeddi'r dyddiadau ailagor: "Gyda'n gilydd rydyn ni'n gwneud cynnydd da wrth atal y feirws rhag lledaenu. Mae oherwydd yr ymdrechion rydyn ni wedi eu gwneud gyda'n gilydd ein bod yn gallu codi'r cyfyngiadau ac ailagor rhagor o'n cymdeithas a'n heconomi.
"Fodd bynnag, dyw bygythiad coronafeirws ddim wedi mynd, a dim ond os ydyn ni i gyd yn ymddwyn mewn modd cyfrifol y byddwn ni'n gallu diogelu Cymru. Mae hyn yn golygu parhau i gadw pellter cymdeithasol a meddwl yn ofalus am lle rydyn ni'n mynd a pham."
Hefyd o ddiddordeb