Manylion personol cyn-fyfyrwyr Aberystwyth wedi eu hacio
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau fod un o'u gwasanaethau ar-lein wedi bod yn destun ymosodiad seibr troseddol.
Mae'r brifysgol wedi cael gwybod gan y cwmni sy'n rhedeg y porth ar-lein, sy'n cynnwys e-gylchlythyr ar gyfer cyn-fyfyrwyr.
Mae cwmni Blackbaud, sy'n rhedeg y gwasanaeth ar-lein, wedi cadarnhau ei bod yn bosibl y cafwyd mynediad i fanylion personol rhai cyn-fyfyrwyr.
Serch hynny, mae Blackbaud wedi sicrhau na chafwyd mynediad i fanylion cyfrifon banc na chardiau credyd defnyddwyr, meddai'r brifysgol.
Mae'r cwmni hefyd wedi rhoi gwybod i'r brifysgol eu bod wedi hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am y digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth: "Rydyn ni wedi ein hysbysu gan Blackbaud eu bod wedi dioddef mynediad diawdurdod at ddata a effeithiodd ar borth ar-lein a system rheoli gwybodaeth cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr y Brifysgol.
"Roedd hyn yn rhan o ymosodiad seibr ehangach sydd wedi effeithio ar ddata sy'n cael ei ddal ar ran nifer o brifysgolion yn y DU.
"Mae Blackbaud wedi rhoi sicrwydd nad oes manylion cyfrif banc na chardiau credyd wedi eu cymryd.
"Mae'r cwmni hefyd wedi datgan bod data a gafodd ei ddwyn bellach wedi ei ddileu ac nad oes ganddynt unrhyw reswm i gredu ei fod wedi ei gamddefnyddio."