Cwarantin am 14 diwrnod ar ôl dychwelyd o Sbaen
- Cyhoeddwyd

Mae pobl wedi dechrau heidio yn ôl i lefydd fel Palma de Mallorca, Spain
Bydd unrhyw un sy'n teithio o Sbaen yn ôl i'r DU - gan gynnwys i Gymru - yn gorfod mynd i gwarantin am 14 diwrnod o heddiw ymlaen.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU y cyhoeddiad ddydd Sadwrn yn dilyn cynnydd yn yr achosion o Covid-19 yn Sbaen.
Cafodd dros 900 o achosion positif o'r feirws eu cofnodi yno ddydd Gwener.
Daeth cadarnhad y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dilyn yr un trywydd.
Dywedodd gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething nos Sadwrn: "Bydd yn ofynnol i unrhyw un sy'n cyrraedd y DU o Sbaen i fynd i cwarantin am 14 diwrnod o [ddydd Sul] yn dilyn ymchwydd mewn achosion coronafeirws yn y wlad.
"Rwy'n diwygio ein rheoliadau teithio rhyngwladol i rym o hanner nos [nos Sadwrn] oherwydd y risg i iechyd y cyhoedd dan sylw.
"Bydd hyn yn lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws yma yng Nghymru."
Dywedodd Llywodraeth y DU fod iechyd y cyhoedd yn "flaenoriaeth lwyr".
"Rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad hwn i gyfyngu ar unrhyw ledaeniad posib i'r DU," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2020