Neco Williams: Teulu yn falch o lwyddiant amddiffynnwr Lerpwl
- Cyhoeddwyd
Pedwar Cymro oedd wedi ennill medal Uwch Gynghrair Lloegr cyn y tymor hwn.
Mark Hughes, Clayton Blackmore a Ryan Giggs yn enillwyr gyda Manchester United - yn wir mae Giggs wedi ennill y teitl yn fwy nag unrhyw chwaraewr arall, 13 o weithiau.
Caerlŷr oedd enillwyr annisgwyl tymor 2015-16 ac roedd chwaraewr canol cae Cymru, Andy King, yn rhan o'r llwyddiant.
Bellach mae pumed Cymro wedi ymuno gyda'r rhestr hwnnw - Neco Williams.
Mae amddiffynnwr 19 oed Lerpwl wedi derbyn medal ar ddiwedd tymor cyntaf gyda chewri Anfield, wrth iddyn nhw ennill y gynghrair am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf yn erbyn Arsenal yng Nghwpan y Gynghrair fis Hydref y llynedd.
Ers hynny mae wedi chwarae mewn 12 gêm - gan gynnwys o'r cychwyn yn erbyn Newcastle United ar ddiwrnod olaf yr Uwch Gynghrair ddydd Sul.
Mae ei lwyddiant wedi bod yn destun balchder mawr i'w deulu nôl ym mhentref Cefn Mawr ger Wrecsam a thu hwnt.
"'Da ni i gyd mor prowd ohono fo," meddai ei gefnder Dafydd Evans o Borthmadog.
"Iddo guro'r Premier League a cael medal Premier League yn 19 oed, 'da ni i gyd yn chuffed.
"Roedd pawb hefo'r champagne allan y diwrnod o'r blaen."
'Chwarae i Man United a Lerpwl yr un pryd'
Dywed Dafydd bod ei gefnder wedi dangos bod ganddo ddawn fel pêl-droediwr ers oed ifanc iawn.
"Oedd o bob tro yn dod â pêl hefo fo," meddai Dafydd ar raglen Ar y Marc ar Radio Cymru.
"Oedd o'n arfer dod lawr i lan môr hefo ni ers talwm ac yn wyth neu naw oed mi oedd o'n rhedeg rings rownd fi a fy mêts i gyd.
"Odda chi'n gallu dweud yr oed yna ei fod o'n edrych yn rwbath sbeshal ond do'n i ddim yn meddwl y bydda fo'n curo'r Premier League yn 19.
"Oedd o'n chwarae i dîm lleol yn Cefn Mawr pan oedd yn chwech oed ac fe gath ei sgowtio i Man U.
"Odd o'n chwarae i Man U a Lerpwl ar yr un adeg.
"Odd o'n mynd i training Man U ar y dydd Mawrth a Lerpwl ar y dydd Mercher - cael gêm i Man U bore dydd Sul ac mynd yn syth i gêm Lerpwl pnawn dydd Sul.
"Ond dwi'n meddwl mae hynny'n dangos bod o wedi dewis y clwb iawn."
Diwrnod wedi i Lerpwl gael eu cyflwyno gyda thlws Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn eu buddugoliaeth dros Chelsea ac roedd Neco Williams nôl yng Nghefn Mawr.
Yn un o bedwar o blant, mae'n dychwelyd yn ôl i gartref ei rieni pob cyfle gaiff yng nghanol prysurdeb gyrfa fel chwaraewr proffesiynol.
Ac mae Dafydd Evans, sydd yn yn gefnogwr Manchester United, eisoes wedi cael sgwrs dros y ffôn er mwyn llongyfarch ei gefnder.
"Odd o'n dweud bod o'n hollol amazing o deimlad," ychwanegodd Dafydd.
"Ac yn dweud bod o eisiau curo mwy - mae'r hunger yna'n barod ac eisiau curo mwy o silverware.
Neco i'r Ewros?
Yn ôl Dafydd "mater o amser" fydd hi nes bydd Neco yn ennill ei gap llawn cyntaf dros Gymru.
Roedd darogan y byddai wedi cael ei gynnwys yn ngharfan Ryan Giggs ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Awstria a'r Unol Daleithiau ym mis Mawrth.
Ond fe gafodd y gemau hynny, yn ogystal â chystadleuaeth Euro 2020, eu gohirio oherwydd argyfwng coronafeirws.
"Odda ni wedi gobeithio fel teulu 'sa 'di cael ei gap cyntaf yn y friendlies ym mis Mawrth," meddai Dafydd.
"Ond 'da ni yn gobeithio bydd o'n cael ei gap cyntaf cyntaf yn y gemau nesaf.
"Doedd 'na ddim lot o sôn amdano fo pan oedd y dewis i'r Euros yn dod y flwyddyn yma.
"Mae ganddo flwyddyn rŵan i ddangos be fedrith o wneud ar y cae."