Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-0 Brentford

  • Cyhoeddwyd
Andre AyewFfynhonnell y llun, Getty Images

Gôl Andre Ayew oedd y gwahaniaeth rhwng Abertawe a Brentford yng nghymal cyntaf rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth.

Roedd Ayew wedi methu cic o'r smotyn i'r Elyrch cyn iddo sgorio'r gôl hollbwysig gyda wyth munud yn weddill.

Bydd y timau yn cwrdd yn yr ail gymal ym Mharc Griffin nos Fercher.

Roedd yr hanner cyntaf yn ornest tynn a llawn tensiwn gyda Rhian Brewster yn dod yn agos ddwywaith at sgorio i'r Elyrch, a Ollie Watkins a Said Benrahma yn cael cyfleoedd i'r ymwelwyr.

Ond cyfartal, di-sgôr, oedd hi ar yr egwyl.

Rico HenryFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rico Henry o Brentford ei hel o'r cae yn dilyn tacl flêr ar Connor Roberts

Cafodd Ayew gyfle da i'r tîm cartref cyn i'r dyfarnwr roi cic o'r smotyn i Abertawe ar ôl i Brewster gael ei lorio yn y cwrt cosbi, ond fe arbedwyd cic Ayew gan y golwr David Raya.

Buan wedi hynny yr aeth pethau o ddrwg i waeth i Brentford pan welodd Rico Henry gerdyn coch yn dilyn tacl ar Connor Roberts.

Ac fe wnaeth Ayew i wneud yn iawn yn dilyn ei fethiant cynharach wrth i'r ymosodwr sicrhau ei 18fed gôl o'r tymor gyda chwip o ergyd.

Bydd yr ail gymal yng ngorllewin Llundain nos Fercher.

Bydd Caerdydd gartref yn erbyn Fulham yng nghymal cyntaf yr ail rownd gyn derfynol nos Lun.