Y darlledwr radio Chris Needs wedi marw yn 66 oed
- Cyhoeddwyd

Roedd Chris Needs yn cyflyno rhaglen rhwng 22:00 ac 01:00 ddydd Llun i ddydd Gwener
Mae'r darlledwr radio Chris Needs wedi marw yn 66 oed.
Bu farw Mr Needs, wnaeth gyflwyno rhaglen ar BBC Radio Wales am bron i 20 mlynedd, ddydd Sul.
Bu hefyd yn cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ac S4C am gyfnodau.
Fe ddechreuodd ei yrfa radio gyda Touch AM cyn symud i'r BBC, ble cyflwynodd ei raglen nosweithiol, The Friendly Garden Programme, am 18 mlynedd.
Roedd Mr Needs, o Gwmafan, Castell-nedd Port Talbot, hefyd yn actor ac yn bianydd clasurol, ac fe dderbyniodd MBE yn 2005.
'Cymeriad anhygoel, unigryw'
Yn rhoi teyrnged iddo, dywedodd golygydd BBC Radio Wales, Colin Paterson bod Mr Needs yn "gawr ym myd darlledu radio".
"Roedd Chris yn gymeriad anhygoel - cwbl unigryw oedd yn ddiddanwr wrth reddf," meddai.
"Roedd yn gawr ym myd darlledu radio; bu gyda'r sector fasnachol am flynyddoedd cyn symud i'r BBC, lle bu'n darlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar deledu a radio.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

"Ni ellir tanbrisio ei gyfraniad i Radio Wales, yn enwedig dros y misoedd diwethaf lle bu'n cynnig cysur a chwmnïaeth i'n gwrandawyr.
"Dod â phobl ynghyd oedd un o'i brif gryfderau a dwi'n gwybod y bydd ei dîm, ynghyd â phawb yn Radio Wales yn gweld ei golled yn fawr.
"Mae ein meddyliau heddiw ar amser mor drist efo gŵr Chris, Gabe, ei deulu a'i ffrindiau."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd teyrngedau eu rhoi iddo ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, gan gynnwys yr actor Ieuan Rhys a'i ddisgrifiodd fel "cymeriad a hanner".
Ychwanegodd y cyflwynydd Dylan Ebenezer: "Newyddion trist iawn - dyn hyfryd - wastad gyda amser am sgwrs."