Dedfrydu dyn am ladrata o gartref y pêl-droediwr Sol Bamba

  • Cyhoeddwyd
Llun CCTV o'r lladrad gafodd ei ryddhau gan Heddlu De CymruFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y lladrad ei recordio ar CCTV - dyma lun wnaeth Heddlu'r De ei ryddhau wrth ymchwilio i'r achos

Mae dyn 18 oed o Gaerdydd wedi cael dedfryd o wasanaeth cymunedol ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o ladrata o gartref y pêl-droediwr, Sol Bamba.

Roedd amddiffynnwr Caerdydd, Sol Bamba a'i deulu wedi mynd i ffwrdd pan dorrwyd i mewn i'r eiddo ar 27 Gorffennaf y llynedd.

Ddydd Mercher fe gafodd Daniel Flynn ddedfryd o 180 awr o waith di-dâl yn y gymuned.

Cafodd dyn 25 oed o Gaerdydd, Kyle Harris, ei garcharu am ddwy flynedd ym mis Tachwedd ar ôl cyfaddef i'w ran yntau yn y lladrad.

Roedd yr Adar Gleision yn chwarae gêm gyfeillgar yn Ffrainc yn erbyn OGC Nice ddiwrnod y drosedd.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Sol Bamba na'r deulu ddim yn yr eiddo adeg y lladrad

Doedd Mr Bamba, ei wraig, Chloe, na'u tri o blant, rhwng pump a 12 oed, ddim adref pan wnaeth y lladron ddwyn Range Rover, bag Louis Vuitton ac oriawr Cartier o'r eiddo.

Ar y pryd roedd chwaraewr rhyngwladol y Traeth Ifori'n gwella o anaf i'w ben-glin a gafodd wrth chwarae yn erbyn Wolverhampton Wanderers ym mis Mawrth 2019.

Cafodd Flynn ei weld mewn lluniau CCTV yn torri drws patio cefn y tŷ, ac yn gyrru Range Rover Sport Mr Bamba, oedd yn werth £62,000, o'r tŷ.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod dau ddyn, canol a dde, heb eu dal wedi'r digwyddiad

Ond fe glywodd Llys Y Goron Caerdydd fod Flynn yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern ac wedi cael ei orfodi i gymryd rhan yn y drosedd.

Bydd yn rhaid i Flynn gwblhau 180 o oriau o waith heb dâl o fewn 18 mis.

Bydd hefyd disgwyl iddo gwblhau 25 diwrnod o weithgaredd ailsefydlu, ac fe gafodd naw pwynt ar ei drwydded yrru.

Gan ddisgrifio'r ddedfryd yn un "anarferol" dywedodd y barnwr Richard Twomlow ei fod wedi ystyried ei oedran, ei amgylchiadau, a'i ran "anfoddog" yn y lladrad wrth benderfynu yn erbyn ei anfon i garchar.