Crasfa i Forgannwg yng Nghwpan Bob Willis
- Cyhoeddwyd
Collodd tîm criced Morgannwg yn drwm yn eu gornest ym mhencampwriaeth Tlws Bob Willis yn erbyn Gwlad yr Haf.
Roedd eu gwrthwynebwyr wedi gosod targed anferth i Forgannwg yn eu gêm Grŵp Canolig, ac yn y diwedd fe gollodd y Cymry o 289 o rediadau.
A hwythau'n chwarae gartref yn Taunton, sgoriodd Gwlad yr Haf 296 yn eu batiad cyntaf a caewyd eu hail fatiad ar 290 am 8 wiced.
Cafodd Morgannwg eu cyfyngu i 131 yn y batiad cyntaf. Yn yr ail roedden nhw ar 29-3 ar un adeg, ond wedi sgôr o 67 heb fod allan gan Chris Cooke, aeth y gêm i'r diwrnod olaf.
Ond profodd y targed o 456 i ennill ar y diwrnod olaf yn amhosib i'r ymwelwyr, a roeddynt i gyd allan am 166.
Enillodd Gwlad yr Haf 21 pwynt, tra roedd rhaid i Forgannwg fodloni ar dri phwynt yn unig.
Cymerdodd Craig Overton saith wiced i Wlad yr Haf, a sgoriodd Tom Abell 119.
Mae Pencampwriaeth y Siroedd yn dra wahanol eleni gyda'r 18 sir wedi eu rhannu'n ddaearyddol er mwyn cyfyngu ar deithio oherwydd coronafeirws