Tri o bobl wedi eu hanafu'n ddifrifol ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri char ar yr M4 ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe aeth un o'r ceir oddi ar y draffordd ac i lawr llethr cyn mynd ar dân.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 04:40 fore Iau ac mae'r M4 i gyfeiriad y dwyrain yn parhau ar gau ger cyffordd 35.
Yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans cafodd dynes a dau ddyn eu hanafu'n ddifrifol ac fe gafodd dau berson arall driniaeth am fân anafiadau.
Bu'r ffordd ar gau nes 10:45, a rhybuddiodd yr heddlu bod oedi yn debygol am rai oriau.
Apêl am dystion
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: "Bu Ford Ka lliw arian mewn gwrthdrawiad gyda Ford Fusion cyn mynd oddi ar y draffordd, ac yna mae Nissan Navara wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda'r Fusion.
"O ganlyniad fe gafodd tri o bobl oedd yn y Ford Ka anafiadau difrifol, ac fe gawson nhw'u cludo i'r ysbyty."
Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y Ford Ka yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.
Maen nhw'n awyddus hefyd i gael unrhyw luniau dash-cam o'r digwyddiad.