Rhybudd am stormydd difrifol dros Gymru gyfan

  • Cyhoeddwyd
stormFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau difrifol dros y DU gyfan wedi dod i rym ers hanner nos ddydd Sul am 24 awr.

Er bod y rhybudd yn dweud fod yna ansicrwydd am leoliad ac union amseru'r stormydd, mae'n bosib y byddan nhw'n rhai drwg.

Bydd y lleoliadau sy'n gweld y stormydd gwaethaf yn debyg o weld cenllysg mawr neu law trwm.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai cartrefi a busnesau weld llifogydd yn gyflym yn yr ardaloedd gwaethaf.

Mae disgwyl oedi i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardaloedd hynny, ac fe fydd amodau gyrru yn anodd dros ben.

Ychwanegodd y rhybudd y gallai cyflenwadau trydan hefyd gael eu colli yn ardaloedd y stormydd.