Bandiau'n chwarae eto wedi llacio cyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Mae newidiadau i reolau Covid-19 sy'n galluogi hyd at 30 o bobl i gyfarfod tu allan yn golygu bod bandiau yn cael ymarfer unwaith eto - er nad ydy llawer yn ymwybodol o hynny.
Fe wnaeth Band Tref Aberhonddu ymarfer am y tro cyntaf ers mis Mawrth yn ddiweddar, gan gynnal y sesiwn ym maes parcio eu lleoliad arferol.
Ond mae'n debyg nad oedd hi'n glir i lawer o fandiau dros Gymru bod y rheol yn eu galluogi i ymarfer eto, gan nad oes cyhoeddiad penodol wedi ei wneud.
Dywedodd ysgrifennydd un band yn y gogledd bod bandiau wedi eu hanghofio yn ystod cyfnod coronafeirws.
'Pythefnos i drefnu'
Ar ôl ymarfer cyntaf Band Aberhonddu y tu allan i Theatr Brycheiniog yr wythnos diwethaf, dywedodd un aelod ei bod hi'n braf cael chwarae eto.
"Roedd hi'n teimlo'n wych i gael bod yn ôl yn gwneud beth mae'r band yn ei fwynhau," meddai Kathryn Powell.
"Mae'n gam bach. Roedden ni'n gallu eistedd 2.4 metr oddi wrth ein gilydd a chwarae yn yr awyr agored."
Mae 60 o aelodau ym Mand Tref Aberhonddu, felly dim ond hanner sy'n cael ymarfer ar un tro - ond mae'n gam pwysig ymlaen.
Er mwyn gallu ymarfer eto, roedd rhaid i'r band benodi swyddog Covid-19 a chynllunio'n drylwyr.
"Fe wnaethon ni chwilio am lawer o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a gwneud llawer o ymchwil ymlaen llaw, meddai'r cyfarwyddwr cerdd, David Jones.
"Mae wedi cymryd pythefnos go dda i drefnu, roedd rhaid penodi swyddog corona a gwneud asesiad risg i bawb, a chynllun o sut i gael pawb o'u ceir i le allan nhw chwarae."
Roedd hi'n "braf cael gweld pawb eto" meddai Nigel Annett, er bod yr ymarfer yn wahanol i'r drefn arferol oherwydd y pellter rhyngddynt.
"Alla i ddim rhagweld ni'n dod at ein gilydd fel yr arfer unrhyw bryd yn fuan iawn, felly dyma fydd y dyfodol am y misoedd nesaf, neu hyd yn oed y flwyddyn i ddod."
Ond mae na deimlad fod bandiau wedi eu hanghofio i raddau, meddai ysgrifennydd Seindorf Biwmares, Gary Pritchard.
"Mae'r lobïo chwaraeon yn gryf, felly mae pêl-droed wedi dechrau, pyllau nofio wedi agor, ond mae'n teimlo bod y gymuned bandiau pres wedi ei hanghofio a'i hanwybyddu," meddai.
Er yn cydnabod nad oes cymaint o aelodau, dywedodd bod bandiau'n "rhan hanfodol" o'n diwylliant.
"Dyma'r unig le mae rhai plant yn cael addysg gerddorol: creu cerddoriaeth, dysgu darllen cerddoriaeth...mae'n hanfodol ar gyfer iechyd meddwl, ac nid at rŵan yn unig - at y dyfodol hefyd."
'Dim newid rheolau am y tro'
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio gweld rheolau pendant ar chwarae y tu mewn yn fuan, er mwyn gallu dechrau paratoi.
"Dwi'n meddwl mai'r pryder mwya' sy ganddon ni, nid fel band yn unig ond fel cymuned, ydy bod pobl heb chwarae ers tri, pedwar, pum mis, ac yn penderfynu rhoi'r gorau iddi.
"Os nad ydyn ni'n gallu ymarfer, yna byddwn ni'n colli'r to iau ac os ydyn ni'n eu colli nhw, wel fydd 'na ddim band ymhen deng mlynedd."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod grwpiau o hyd at 30 yn cael cyfarfod y tu allan, yn cynnwys bandiau, ond nad oes disgwyl canllawiau newydd ar gyfarfod dan do ar hyn o bryd.
Ychwanegodd llefarydd: "Fe fyddwn beth bynnag yn rhybuddio pobl am beryglon ymledu'r haint drwy aerosolau sy'n cael eu creu wrth chwarae offerynnau yn agos at eraill. Rydym yn argymell i beidio â chwrdd er mwyn ymarfer dan do."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2020