'Pryderon enbyd' am gynllun ynni môr Môn ac adar prin

  • Cyhoeddwyd
arfordir
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynllun ar gyfer 35 cilomedr sgwâr o wely'r môr

Mae cymdeithas adar RSPB Cymru wedi mynegi "pryderon enbyd" am effaith cynllun ynni môr oddi ar arfordir Ynys Môn ar nifer o adar prin.

Yn ôl y gymdeithas, mae'r pwysau i wireddu cynllun Morlais yn golygu y bydd yr amgylchedd morol dan fygythiad annerbyniol.

Mae gan y cynllun, ar 35 cilomedr sgwâr o wely'r môr, y potensial i fod yn un o'r safleoedd cynhyrchu ynni llif llanw mwyaf yn y byd.

Mae Menter Môn wedi cyflwyno cais cynllunio i Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r safle.

Ond mae RSPB Cymru yn honni fod asesiad amgylcheddol y datblygwyr yn awgrymu y gallai'r prosiect arwain at golli llawer o'r adar sy'n nythu ar y clogwyni yng ngwarchodfa natur Ynys Lawd, sy'n denu 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Gallai 60% o'r gwylogod (guillemots) a 97% o'r llursod (razorbills) ddiflannu.

Ffynhonnell y llun, RSPB
Disgrifiad o’r llun,

Mae na bryderon gan RSPB Cymru am effaith y datblygiad ar adar fel llursod

Mae Menter Môn yn dweud mai eu bwriad ydy dechrau'n raddol, gyda nifer bychan o dyrbinau i ddechrau er mwyn asesu'r effaith ar fywyd gwyllt.

Maen nhw'n credu y gallai'r datblygiad, fydd yn fan profi ar gyfer technolegau ynni morol gwahanol, greu 160 o swyddi

Maent hefyd yn dadlau nad oes yna unrhyw dystiolaeth ledled y byd hyd yma fod cynlluniau o'r fath yn niweidio adar ar raddfa eang, a bod y ffigyrau yma'n seiliedig ar y sefyllfa waethaf posib.

Ond dywedodd Katie-jo Luxton, cyfarwyddwr RSPB Cymru: "Os yw'r prosiect o ddifri' am brofi technegau cynhyrchu ynni morol newydd mewn modd amgylcheddol sensitif, rhaid iddo weithredu fesul cam a dysgu o bob cam."

Mae'r gymdeithas wedi galw ar Menter Môn i dynnu eu cais cynllunio'n ôl, ac yn hytrach gweithredu prosiect peilot ar raddfa llawer llai.

Disgrifiad o’r llun,

Gerallt Llewelyn: Dim am ddatblygu "ar draul bywyd gwyllt"

Dywedodd Gerallt Llewelyn, un o gyfarwyddwyr Menter Môn sy'n gyfrifol am y cynllun: "Cwmni lleol ydy Menter Môn. Dydan ni ddim yma i niweidio na dinistrio dim byd.

"'Da ni'n awyddus iawn i ddatblygu'r economi, ond ddim ar draul bywyd gwyllt.

"'Da ni'n credu fod modd cwrdd â'r angen economaidd a'r angen cadwriaethol wrth gydweithio."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yna amddiffyniad amgylcheddol cryf yn y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â datblygiadau o'r fath.

Mae disgwyl penderfyniad terfynol ar y cais cynllunio rhywbryd y flwyddyn nesaf.