Tlws Bob Willis: Morgannwg yn 80-5 cyn i'r glaw ddod eto

  • Cyhoeddwyd
Gerddi SoffiaFfynhonnell y llun, Getty Images

Bu'n rhaid gohirio gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Nhlws Bob Willis oherwydd y glaw yng Nghaerdydd.

Roedd y tîm cartref yn dioddef yng Ngerddi Soffia ddydd Sul, gyda sgôr o 80 am bump yn eu batiad cyntaf.

Doedd dim criced yn bosib ar y diwrnod cyntaf ddydd Sadwrn oherwydd y glaw.

Erbyn i'r glaw ddod eto ar ôl te ddydd Sul, roedd Morgannwg yn wynebu talcen caled ar ôl i'r ymwelwyr benderfynu bowlio'n gyntaf.

Collodd y tîm cartref yr holl wicedi yn ystod sesiwn y prynhawn am ddim ond 53 o rediadau, a hynny ar ôl bod yn 27 heb golled erbyn amser cinio.