Pris cylchgrawn Golwg i gynyddu am y tro cyntaf ers 2014
- Cyhoeddwyd
Bydd pris y cylchgrawn wythnosol Golwg yn cynyddu o £1.75 i £2.50 o hyn allan medd y cyhoeddwyr.
Mewn llythyr at danysgrifwyr y cylchgrawn, dywedodd prif weithredwr Golwg, Sian Powell, fod y penderfyniad wedi ei wneud i gynyddu pris y cylchgrawn "er mwyn cynnal y gwasanaeth yn y dyfodol."
Dyma'r cynnydd cyntaf ym mhris y cylchgrawn wythnosol ers 2014.
Ychwanegodd Sian Powell fod y "cyfnod clo wedi creu anawsterau newydd o ran incwm hysbysebion a gwerthu trwy siopau ac yn y blaen felly mae cefnogaeth ein tanysgrifwyr yn bwysicach nag erioed.
"Rydym yn falch o ddeud ein bod wedi parhau i gyhoeddi ein holl gyhoeddiadau, heb roi unrhyw aelod o staff ar furlough ac wedi parhau i gynnal safon uchel iawn o graffu ar ein sefydliadau gwleidyddol ac adrodd straeon diddorol (a chynhyrchu croesair!)."
O hyn allan fe fydd pris y cylchgrawn yn cynyddu o £1.75 i £2.50, ac fe fydd pris tanysgrifiad blynyddol yn £120.
Dywedodd Sian Powell y bydd y plastig sydd yn gorchuddio'r cylchgrawn yn cael ei newid hefyd, "i un sy'n gallu cael ei gompostio fel bod modd ei ailgylchu a chyfrannu ymhellach at amddiffyn yr amgylchedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018