Penodi Garmon Ceiro yn olygydd newydd Golwg a Golwg360
- Cyhoeddwyd
Mae Golwg wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi Garmon Ceiro fel prif olygydd ar gyfer y cylchgrawn a gwefan newyddion Golwg360.
Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Siân Powell ei fod yn benodiad "cyffrous" fyddai'n "ein harwain at gyfnod newydd yn hanes y cwmni".
Ar hyn o bryd mae Mr Ceiro, sydd yn wreiddiol o ardal Aberystwyth, yn gweithio i Lywodraeth Cymru ac yn golofnydd i'r Cymro.
Mae disgwyl iddo ddechrau ar ei swydd ym mis Ebrill.
'Creadigol a dewr'
Dywedodd Ms Powell fod y penodiad yn rhan o ymdrechion Golwg i newid eu strwythur golygyddol.
"Yn hanesyddol mae un golygydd wedi gweithio ar y cylchgrawn ac un arall ar y wefan," meddai.
"Ond mae penodi Garmon i arwain y ddau yn gwneud y gorau o'r holl gyfryngau gwahanol, gan annog mwy o gydweithio gan gynnwys mwy o rannu straeon, adnoddau a delwedd."
Dywedodd Mr Ceiro ei fod yn "fraint" cymryd yr awenau a chael "gweithio i gyhoeddiad annibynnol yng Nghymru".
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at helpu'r cwmni i "chwarae rôl flaenllaw, greadigol ac arloesol yn y cyfryngau yng Nghymru", a hynny wrth i wefan Golwg360 ddathlu 10 mlynedd ers lansio.
"Bydda i a Golwg yn greadigol, yn ddewr ac yn ddiflino yn ein hymdrechion i ddwyn pobl i gyfrif," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd17 Mai 2019