Corff claf ysbyty heb ei ddarganfod am ddau ddiwrnod
- Cyhoeddwyd
Bu farw claf mewn ystafell gawod yn Ysbyty Brenhinol Gwent ar ôl cymryd gorddos o heroin, ond ni chafodd ei gorff ei ddarganfod am ddau ddiwrnod.
Clywodd cwest i farwolaeth Rory McLeod o Gasnewydd, fod yr ysbyty bellach wedi gosod arwyddion newydd ar doiledau ac ystafelloedd ymolchi ar ôl y digwyddiad.
Nid oedd posib dweud o'r arwydd ar ddrws ciwbicl y gawod os oedd rhywun i mewn ynddo ai peidio.
Daeth y cwest i'r casgliad fod marwolaeth Mr McLeod - garddwr a thirluniwr 52 oed o ardal St Julian's o'r ddinas - yn gysylltiedig â chyffuriau.
Ymchwiliad trylwyr
Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eu bod wedi cynnal ymchwiliad trylwyr, ac y byddai gwell arwydd ar y drws wedi rhybuddio'r staff fod rhywun yn yr ystafell gawod.
Clywodd Llys Crwner Casnewydd fod gan Mr McLeod hanes o gamddefnyddio alcohol a chyffuriau.
Cafodd ei dderbyn i'r ysbyty ar 31 Mawrth 2019 ar ôl dioddef strôc.
Ar 05:30 ar 11 Ebrill, gadawodd yr ysbyty er mwyn cael sigarét. Roedd lluniau CCTV yn ei ddangos yn dod yn ôl i mewn 10 munud yn ddiweddarach, ond ni ddaeth yn ôl i'r ward lle'r oedd yn cael ei drin.
Roedd Mr McLeod wedi bod i mewn ac allan o'r ward ar adegau eraill, yn cynnwys un tro pan roedd wedi cymryd y cyffur spice.
Clywodd y llys nad oedd unrhyw bryderon am ei gyflwr meddyliol ar y pryd, ac felly nid oedd y staff yn gallu ei rwystro rhag mynd a dod.
Dywedodd Jade Matthews, rheolwraig y ward, y bu chwilio amdano yn yr ysbyty, ac ar dir yr ysbyty a'r ardal gyfagos heb ddim golwg o'r claf.
Roedd glanhawr wedi glanhau ciwbicl y gawod ar yr 11eg, ond nid oedd yn gallu mynd i mewn ar fore'r 12fed, ac roedd wedi cymryd yn ganiataol ei fod yn cael ei ddefnyddio.
Methodd gael mynediad eto ar y 13eg, a chafodd y drws ei gicio i mewn a darganfuwyd corff Mr McLeod.
Gwenwyno gan gyffuriau
Daeth staff o hyd i amlen yno yn cynnwys dwy nodwydd lliw porffor oedd wedi cael eu defnyddio.
Dangosodd post mortem mai'r achos marwolaeth oedd gwenwyno gan gyffuriau, gyda dirywiad ar yr iau oherwydd braster a chlefyd yng ngwythiennau mawr y galon hefyd yn ffactorau.
Roedd adroddiad ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dweud ei bod yn arferol i ddrysau cawod gael arwyddion 'prysur' neu 'gwag' arnynt.
"Oherwydd ei oedran nid oes arwydd o'r fath ar ddrws yr ystafell dan sylw, ac felly roedd hi'n fwy anodd i sylwi fod yr ystafell yn brysur ar hyd yr adeg," meddai.
'Camgymeriad trasig a marwol'
Daeth Diprwy Grwner Gwent, Sarah Le Fevre, i'r canlyniad fod marwolaeth yn gysylltiedig â chyffuriau.
Roedd hi'n amhosib dweud pryd yn union yr aeth i mewn i giwbicl y gawod, meddai.
"Roedd hi o leiaf yn bosib fod Mr McLeod wedi gwneud gwneud camgymeriad trasig a marwol ynglŷn â lefel ei oddefgarwch i heroin," meddai.Mewn datganiad dywedodd brawd Mr McLeod fod y teulu'n hapus gyda'r gofal a gafodd yn yr ysbyty.
"Rydym wedi treulio blynyddoedd yn ceisio helpu fy mrawd i reoli ei sialensau gyda cham-ddefnyddio," meddai.