Taylor yn disgleirio i Forgannwg ar y diwrnod cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Callum Taylor yn disgleirio ar ei ddiwrnod cyntaf yn chwarae i ForgannwgFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Callum Taylor yn disgleirio ar ei ddiwrnod cyntaf yn chwarae i Forgannwg

Callum Taylor ar ei ymddangosiad cyntaf i Forgannwg oedd y seren ar ddiwrnod cyntaf y gêm bedwar diwrnod Tlws Bob Willis yn erbyn Sir Northampton.

Sgoriodd Taylor sy'n 22 mlwydd oed 106 o rediadau, a gyda Michael Hogan gosod record y clwb o 124 o rediadau am y ddegfed wiced.

Felly erbyn amser te roedd Morgannwg i gyd allan am sgôr barchus o 259 o rediadau.

Er fod y tywydd yn ddigon tywyll a gwyntog dechreuodd y tîm cartref ar eu batiad hwythau ac erbyn diwedd y chwarae roeddynt yn 82 am un wiced, 177 yn brin o sgôr Morgannwg a gyda naw wiced yn sbâr.