Lleoliadau cerddoriaeth byw yn galw am gymorth brys
- Cyhoeddwyd
Mae lleoliadau cerddoriaeth annibynnol a chlybiau nos ar draws Cymru yn galw am gefnogaeth ariannol ar frys, gan ddweud na fydd y diwydiant yn goroesi heb gymorth.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth, sefydliad sy'n cynrychioli lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad, os na fydd mwy o gefnogaeth ariannol ar gael yn fuan, ni fydd llawer o'r lleoliadau byth yn ailagor.
Dywed Cymdeithas y Diwydiannau Nos fod pobl ifanc yn "llwgu'n gymdeithasol" ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu amserlen eglur yn nodi pa bryd y gall clybiau nos ailagor.
Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn £53m ar gyfer y celfyddydau, yn dilyn cymorth o £400,000 i 22 o fusnesau cerdd ym mis Mai er mwyn goroesi yn ystod y pandemig.
Dywed y llywodraeth fod gweinidogion yn deall pryderon y sector, ond bod angen sicrhau fod sefydliadau yn gallu "dychwelyd i berfformio mewn modd diogel".
Yn ôl un adroddiad ar effaith ariannol coronaferws ar leoliadau cerdd yng Nghymru, bydd yn costio £6.46m i gadw'r sector ar gau. Byddai'r gost flynyddol o ailagor y sector o dan ganllawiau pellhau cymdeithasol yn uwch - sef £10.37m medd yr adroddiad.
Fe fyddai hyn o ganlyniad i gynulleidfaoedd llai, a chost gweithredu mesurau diogelwch yn cynnwys sgriniau persbecs, rhwystrau a glanhau'r lleoliadau yn drylwyr wedi pob digwyddiad byw.
'Angen cymorth ar frys'
Sam Dabb yw cydlynydd Cymru ar ran yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth, ac mae hi hefyd yn rhedeg Le Pub yng Nghasnewydd.
Cyn y pandemig, roedd y lleoliad yn cynnal digwyddiadau cerddorol bum noson yr wythnos ac yn ffynnu: "Y capasiti yw 200, ond gyda phobl yn mynd a dod trwy gydol y noson byddai gennym tua 500 o bobl yma ar nos Sadwrn."
Dywedodd fod y diwydiant yn wynebu ei her fwyaf hyd yma, a bod angen cymorth ariannol brys.
"Rydyn ni wedi bod yn talu rhent llawn dros gyfnod y pandemig cyfan. A heb unrhyw arian yn dod i mewn mae wedi bod bron yn amhosib.
"Rydw i eisiau dod yn ôl i normal yn fwy na dim. Rydyn ni'n ganolbwynt pwysig i gymuned greadigol Casnewydd ac rydw i eisiau darparu lle yn ôl iddyn nhw eto.
"Ni allwn wneud gigs o dan rheolau ymbellhau cymdeithasol - ar sail 2m mae gan y lleoliad gapasiti o 17 o bobl. Dydy hyn ddim yn ariannol bosib.
"Erbyn i chi gael eich staff yn y lleoliad, mae hynny yn oddeutu 17 o bobl, felly ni fyddwch yn gallu gwerthu tocynnau beth bynnag.
"Felly mae angen cefnogaeth arnom i allu aros ar gau nes bod brechlyn yn cael ei ddarganfod neu tan na fydd y feirws mor beryglus."
Dywedodd Gary Lulham, sy'n berchen ar glwb Sin City yn Abertawe, fod unrhyw ddigwyddiadau ar gyfer eleni bellach wedi'u canslo:
"Mae wedi bod yn gostus iawn i gadw'r lleoliad ar gau. Roedd y grant cychwynnol gan y llywodraeth yn wych, ac roedd y cynllun ffyrlo yn wych. Heb y gefnogaeth honno ni fydden ni yma nawr.
"Ond mae'r costau parhaus a'r ansicrwydd i'r dyfodol yn golygu ein bod mewn sefyllfa ariannol ansicr iawn. Pan ddaw'r cynllun ffyrlo i ben mae'n ymddangos y byddwn yn rhoi'r gorau i fasnachu tua mis Ionawr.
"Rydyn ni'n gobeithio cael mwy o help o'r pecyn cymorth o £53m a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ond heb gymorth yn fuan fe fydd hi'n ddiwedd y daith arnom.
"Rydyn ni mewn sector penodol iawn lle mae angen help ychwanegol arnom i fynd trwy'r cyfnod yma."
Mae yna bryder hefyd bod pobl ifanc yn "llwgu'n gymdeithasol".
Dywed un sefydliad fod angen lle ar bobl iau i gymdeithasu a mwynhau gyda phobl eu hoedran eu hunain.
Dywedodd Michael Kill, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Diwydiannau Nos: "Mae nifer cynyddol o bartïon anghyfreithlon yn cael eu trefnu ledled y wlad, gan ddangos bod pobl bellach yn creu eu hamgylchedd cymdeithasol eu hunain mewn lleoliadau allai fod yn beryglus neu sydd heb eu rheoleiddio.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru gynhyrchu cynllun eglur iawn ar gyfer agor economi'r nos. Heb i hyn ddigwydd, rydym yn bryderus iawn am ddyfodol clybiau nos, lleoliadau cerddoriaeth a bariau hwyr."
Yn ddiweddar, cafodd rêf anghyfreithlon ei threfnu i dros 100 o bobl yng Ngwynedd, ac mae trafferth wedi codi wrth i griwiau o bobl ifanc ymgasglu yn Aberogwr a Bae Caerdydd yn ystod yr haf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n deall pryderon y sector, ond mae angen i ni sicrhau bod sefydliadau ac unigolion yn gallu dychwelyd i berfformio ac ymarfer mewn modd diogel.
"Nid yw argyfwng coronafeirws wedi diflannu, ac mae'r prif weinidog wedi bod yn glir. Dros yr wythnosau nesaf, ailagor pob ysgol yn ddiogel yw'r flaenoriaeth allweddol.
"Ond mae gweinidogion yn adolygu'r holl gyfyngiadau sydd mewn grym yn ystod pob cyfnod adolygu - ac yna'n penderfynu beth, os unrhyw beth, y gellir ei newid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020