'Dim strwythur i ddiwydiant cerddoriaeth Cymru'

  • Cyhoeddwyd
AdwaithFfynhonnell y llun, Pyst
Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp Adwaith eisoes wedi bod ar daith gyda Gwenno a Joy Formidable

Mae diwydiant cerddoriaeth Cymru angen cefnogaeth "ar lefel ymarferol" ac mae yna "ddiffyg seilwaith", yn ôl prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Daeth sylwadau Betsan Moses wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad cerddoriaeth fyw pwyllgor diwylliant y Cynulliad.

"Mae angen i ni feddwl amdano fel diwydiant neu ni fydd byth yn esblygu," dywedodd wrth ACau.

Clywodd y pwyllgor hefyd bod yna ddiffyg lleoliadau, hyrwyddwyr ac asiantiaid, a dim sefydliad i artistiaid ifanc droi ati i chwilio am gyngor.

"Yr hyn sy'n rhwystredig yw bod y dalent gyda ni," meddai Ms Moses.

"Os ydych chi mewn band ond does gyda chi ddim hyrwyddwr, beth sy'n mynd i ddigwydd? Mae'r band yn mynd i sefyll yn ei unfan."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Neal Thompson yw sylfaenydd gŵyl Focus Wales - digwyddiad blynyddol yn Wrecsam sy'n hyrwyddo grwpiau a cherddorion i'r diwydiant.

Dywedodd yntau wrth y pwyllgor fod yna "ddigonedd o bobl" yn gwneud gwaith o'r fath.

"O roi pawb at ei gilydd, rydan ni'n ffurfio diwydiant cerddoriaeth eithaf hyfyw," meddai.

"Rhyw ffordd o blethu'r cyfan at ei gilydd a chreu man cychwyn seilwaith go iawn rydyn ni ei angen."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae perfformwyr a chefnogwyr wedi mynegi siom bod lleoliadau fel Gwdihŵ yng Nghaerdydd wedi gorfod cau

Ond mae rhai o fewn y diwydiant yn dadlau bod angen strategaeth cyn creu corff newydd.

"Mae yna deimlad o roi'r cart o flaen y ceffyl ar brydiau," meddai Ms Moses, "oherwydd oni bai bod ni'n gwybod beth yw'r nod terfynol, sut allan ni wybod pa seilwaith sydd angen i'w gyrraedd?"

Dywedodd Alun Llwyd, cyfarwyddwr corff Pyst sy'n dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, wrth y pwyllgor: "Mae angen corff ond cyn hynny mae angen strategaeth.

"Rhaid i ni edrych ar y diwydiant rŵan a gweld be ydy'r anghenion."

Disgrifiad o’r llun,

Year of the Dog oedd un o'r bandiau wnaeth gymryd rhan yn gig olaf Gwdihŵ

Mae'r pwyllgor hefyd wedi clywed gan brif weithredwr Recordiau Sain, Dafydd Roberts, a alwodd am gorff i oruchwylio'r diwydiant fel roedd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) yn arfer gwneud.

Daeth y SCG i ben yn 2014 ar ôl colli ei gyllid gan Lywodraeth Cymru.

"Wedi i SCG ddiflannu, collon ni'r corff oedd yn gwneud ymchwil, cynnal cyrsiau rheoli cerddoriaeth, a chyrsiau am hawliau," meddai.

"Roedd yn hyrwyddo artistiaid i fynd i wyliau.

"Roedd hefyd yn cynnal cyrsiau cyfansoddi a chyrsiau sicrhau asiantiaid a rheolwyr yng Nghymru, ble mae diffyg mawr nawr.

"Yn bersonol, dydw i ddim yn deall pam wnaethon nhw stopio ariannu'r SCG."