Pont Hafren i gau er mwyn cynnal ras 10K

  • Cyhoeddwyd
M48 Pont HafrenFfynhonnell y llun, Geograph/Jaggery
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhedwyr yn croesi'r bont ddwywaith, am Gymru i ddechrau ac yna yn ôl am Loegr

Bydd ffordd yr M48 Pont Hafren ynghau fore Sul ar gyfer ras 10k.

Ni fydd ras flynyddol Hanner Marathon Pont Hafren yn cael ei chynnal eleni oherwydd y pandemig, felly mae ras 10k yn cael ei chynnal yn ei lle.

Fe fydd 1,250 o redwyr yn cymryd rhan, gyda bwlch o 10 eiliad rhwng pob cystadleuydd.

Bydd y bont ar gau rhwng Cas-gwent a phentref Aust yn Sir De Caerloyw o 07:30 nes 12:00 fore Sul.

Dywedodd Gareth Price o adran Priffyrdd Lloegr: "Byddwn yn atgoffa gyrwyr i gynllunio o flaen llaw, ac yn ogystal â chau'r bont, mae disgwyl i ffyrdd lleol fod ychydig yn fwy prysur cyn ac ar ôl y ras.

"Ein cyngor yw i gadw golwg ar ein sianeli traffig a gwybodaeth teithio, dechrau yn gynnar a gadael digon o amser."