Criced: Buddugoliaeth i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerloyw

  • Cyhoeddwyd
Andrew SalterFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Fel lwyddodd troellwr Morgannwg Andrew Salter i hawlio 4-20 hanfodol ym muddugoliaeth Morgannwg o 15 rhediad yn erbyn Sir Gaerloyw yng nghystadleuaeth y Vitality Blast ym Mryste brynhawn Sadwrn.

Fe ddechreuodd Morgannwg yn gryf gyda bowlio cywrain gan Salter a Prem Sisodiya, a Sir Gaerloyw yn gorfod anelu am 151 rhediad i ennill.

Er fod Graeme van Buuren wedi ymdrechu i daro'n ôl, gyda 53 rhediad oddi ar 27 pêl, roedd y tîm cartref i gyd allan am 135.

Fe arweiniodd capten Morgannwg Chris Cooke y ffordd gan hawlio 51 heb fod allan oddi ar 35 pêl yn unig, wrth i Forgannwg hawlio 150-7.

Ymdrechodd troellwyr Sir Gaerloyw Tom Smith (2-31) a Graeme van Buuren i gadw'r sgôr yn barchus wrth i'r prynhawn fynd yn ei flaen.

Daeth y prif gyfraniadau eraill gan Billy Root (29 o 31) a Callum Taylor (23 o 20) ac roedd yn edrych fel perfformiad di-fflach gan Forgannwg am gyfnod.

Ond gyda Morgannwg yn bowlio troellwyr am 9 allan o'r 10 pelawd cyntaf, roedd Sir Gaerlowy'n straffaglu ar 49-5 hanner ffordd drwy'r chwarae.

Fe gafwyd llygedyn o obaith drwy ymdrechion George Scott (33) a van Buuren tua'r diwedd, ond roedd y clwb o Gymru wedi gwneud digon i sicrhau buddugoliaeth ar ddiwedd y prynhawn.