Cyngor i deithwyr o Zante i Gaerdydd i hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
Tui flight landing in CardiffFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyrhaeddodd y teithwyr faes awyr Caerdydd o ynys Roegaidd Zante ddydd Mawrth

Mae teithwyr oedd ar awyren oedd yn teithio o un o ynysoedd Groeg i Gymru yn cael cyngor i hunan-ynysu wedi i rai oedd ar ei bwrdd gael prawf positif o haint coronafeirws.

Dywed swyddogion iechyd bod saith o bobl o dri grŵp gwahanol ar hediad Tui 6215 o Zante i Gaerdydd ddydd Mawrth wedi cael prawf Covid-19 positif.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn cysylltu â gweddill y teithwyr.

Dywed Dr Giri Shankar o ICC eu bod yn "annog pob teithiwr ar yr daith i hunan-ynysu am eu bod yn cael eu hystyried yn gysylltiadau agos.

"Byddwn yn cysylltu â'r teithwyr yn fuan ond yn y cyfamser rhaid iddynt hunan-ynysu adref gan y gallant fod yn heintus heb ddatblygu symptomau."

Ychwanegodd Dr Shankar y dylai "unrhyw un sydd â symptomau archebu prawf ar unwaith".

Does yna'r un farwolaeth wedi'i chofnodi yng Nghymru dydd Sul ond mae 56 achosi newydd wedi'u cofnodi.