Ramsey ddim ar gael ar gyfer gemau agoriadol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Ramsey ddwy gol Cymru wrth iddynt guro Hwngari fis Tachwedd y llynedd

Bydd chwaraewr canol cae Juventus, Aaron Ramsey ddim ar gael i wynebu'r Ffindir a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Hefyd allan o'r garfan mae David Brooks, Tyler Roberts ac Ashley Williams.

Mae Ramsey, sydd wedi ennill 60 cap dros ei wlad, yn absennol oherwydd anaf.

Fe fydd tîm Ryan Giggs yn wynebu'r Ffindir yn Helsinki ddydd Iau 3 Medi, ac mae gêm gartref yn erbyn Bwlgaria dridiau yn ddiweddarach.

Mae Ben Woodburn a Brennan Jonhson, o garfan dan-21 oed Cymru, wedi cael eu galw i ymuno â'r brif garfan.

Carfan Cymru:

Golgeidwad: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Stoke).

Amddiffynwyr: Chris Gunter (heb glwb), Ben Davies (Tottenham), Connor Roberts (Abertawe), Tom Lockyer (Charlton), Ethan Ampadu (Chelsea), James Lawrence (Anderlecht), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Lerpwl).

Canol Cae: Jonathan Williams (Charlton), Harry Wilson (Lerpwl), Ben Woodburn (Lerpwl), Matthew Smith (Manchester City), Daniel James (Manchester United), Brennan Johnson (Nottingham Forest), Will Vaulks (Caerdydd), Joe Morrell (Bristol City), Dylan Levitt (Manchester United).

Ymosodwyr: Gareth Bale (Real Madrid), Hal Robson-Kanu (West Bromwich Albion), Rabbi Matondo (Schalke), Kieffer Moore (Caerdydd).