Lefelau marwolaethau Covid-19 yn parhau i ostwng

  • Cyhoeddwyd
Coronavirus graphicFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr ONS mae 2,564 o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â Covid-19

Mae nifer y marwolaethau wythnosol yng Nghymru sy'n gysylltiedig â Covid-19 yn parhau i ddisgyn yn ôl y Swyddfa Ystadegau (ONS).

Roedd yna 11 o farwolaethau yn yr wythnos yn gorffen 21 Awst, gyda phedair o'r rhain yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae'r cyfanswm dri yn llai na'r wythnos flaenorol.

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi mewn 15 o awdurdodau lleol Cymru, na chwaith yn ardaloedd byrddau iechyd Hywel Dda a Bae Abertawe.

Roedd tair o farwolaethau Betsi Cadwaladr yn ardal Wrecsam.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn y pythefnos blaenorol, fe wnaeth Wrecsam gofnodi mwy o farwolaethau nag unrhyw ardal arall yng Nghymru neu Loegr, ond erbyn hyn mae yna fwy yn ardaloedd Blackburn a Bradford.

Fe wnaeth Casnewydd a Bro Morgannwg gofnodi dwy farwolaeth yr un, gyda Chaerdydd, Sir Fflint, Merthyr a Phowys yn cofnodi un farwolaeth yr un.

Cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru yn ôl yr ONS yw 2,564.

Mae'r rhain yn cynnwys marwolaethau o Covid-19 neu lle mae yna amehuaeth fod yr haint yn gysylltiedig, ac yn cynnwys cartrefi gofal, cartrefi cyffredin a hosbisau.

Yn yr un cyfnod hyd 21 Awst, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru - sydd ond yn nodi achosion lle mae Covid-19 wedi ei gadarnhau ac yn bennaf mewn ysbytai - yn nodi 1,593 o farwoalethau.