Rhaid derbyn y gallai rheolau iechyd newid yn ddirybudd

  • Cyhoeddwyd
ZanteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 16 o bobl brawf positif o Covid-19 ar ôl hedfan yn ôl o Ynys Zante

Mae gweinidog iechyd Cymru wedi rhybuddio teithwyr dramor bod rhaid derbyn y gallai'r rheolau newid tra maen nhw i ffwrdd - neu hyd yn oed pan maen nhw yn yr awyr.

Roedd awyren o ynys Zante (Zakynthos) eisoes wedi dechrau hedfan am faes awyr Caerdydd nos Fawrth, pan glywodd y teithwyr y byddai rhaid iddyn nhw hunan ynysu ar ôl cyrraedd adref.

Daeth i'r amlwg yr wythnos ddiwethaf bod 16 o deithwyr ar awyren TUI o Zante wedi profi'n bositif am Covid-19.

Dywedodd Vaughan Gething wrth BBC Cymru: "Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n mynd dramor dderbyn eu bod yn cymryd risg ac y gallai'r rheolau newid tra'u bod nhw dramor neu pan maen nhw yn yr awyr."

Os oedd gwlad wedi ei chynnwys ar y rhestr lle nad oes angen cwarantin, nid oedd hynny'n gwarantu na fyddai'r sefyllfa'n newid, meddai.

Mae trafodaethau'n parhau ynglŷn â sut y bydd teithwyr i Faes Awyr Caerdydd yn cael eu profi, ond mae Mr Gething yn ffafrio gwneud hynny o fewn y maes awyr, cyn iddynt fynd yn eu blaenau i rhywle arall.

Ddydd Mawrth rhoddodd y gweindog nifer o esiamplau o bobl oedd wedi profi'n bositif i Covid-19, yn peidio hunan ynysu ar ôl dychwelyd i Gymru.

Mae gan y llywodraeth bwerau i gorfodi pobl i wneud hynny, ond dywedodd Mr Gething nad oedd am weld hynny'n digwydd "os allwn ni osgoi hynny".

"Wrth gwrs bod gennym bwerau, ac wrth gwrs byddwn yn ystyried eu defnyddio," meddai.

"Ond mae hyn yn ymwneud â dilyn y rheolau, achos yr hyn dwi ddim am ei wneud ydi gweld yr heddlu neu swyddogion iechyd cyhoeddus yn chasio dwsinau o bobl sy'n fwriadol yn torri'r rheolau cwarantin neu hunan ynysu."

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething am gael cyfarfod gyda gweinidogion y DU i drafod Gwlad Groeg

Mae'r gweinidog wedi ceisio cael cyfarfod gyda gweinidogion eraill y DU i drafod rheolau cwarantin posib ar gyfer Gwlad Groeg. Mae'r Alban eisoes wedi penderfynu tynnu'r wlad oddi ar eu 'rhestr eithrio cwarantin' o ddydd Iau ymlaen.

Dywedodd Mr Gething ei fod yn disgwyl adroddiad gan lywodraeth y DU ar Wlad Groeg yn nes ymlaen.

Roedd Llywodraeth Cymru'n chwilio am gysondeb neges, meddai.

"Rydym angen rheolau sy'n hawdd i'w dilyn," meddai.