Stelcian: Deintydd wedi'i 'siomi gan y gyfraith'
- Cyhoeddwyd
Mae deintydd a gafodd ei stelcian yn gyfrinachol gan glaf anfodlon am bron i bedair blynedd yn dweud iddo gael ei "siomi gan y gyfraith" ar ôl clywed y bydd y dyn yn cael ei ryddhau o'r carchar o fewn wythnosau.
Arestiwyd Thomas Baddeley o fewn milltir i gartref Ian Hutchinson ger Cas-gwent ym mis Tachwedd 2019.
Roedd yn gwisgo balaclafa ac roedd ganddo'r hyn ddisgrifiodd yr erlynwyr fel "pecyn llofruddio" oedd yn cynnwys cyllell fawr, bwa croes gyda bollt, masg du a morthwyl.
Datgelodd dogfennau o gartref a char Baddeley ei fod wedi dilyn Dr Hutchinson ers ychydig fisoedd cyn i'w driniaeth orthodontig ddod i ben yn 2016.
Roedd y dogfennau yn cynnwys cynlluniau manwl yn cyfeirio at rywbeth a ddisgrifiodd fel "y Digwyddiad".
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod stelcian yn drosedd sydd yn achosi trallod ac mae'r llywodraeth wedi cryfhau'r ddeddfwriaeth, ac mae gweinidogion "yn benderfynol o'i daclo."
Galw am gosbau mwy llym
Fe osgôdd Baddeley dymor hirach yn y carchar oherwydd bod y gyfraith yn nodi bod yn rhaid i ddioddefwr fod yn ymwybodol eu bod yn cael ei stelcian.
Doedd Dr Hutchinson ddim yn ymwybodol o'r hyn roedd Baddeley yn ei wneud.
Dywedodd troseddegydd blaenllaw fod yr achos yn tynnu sylw at fylchau yn y ddeddfwriaeth stelcian bresennol, gan ddweud fod angen delio â throseddau o'r fath yn fwy difrifol.
Cafodd Baddeley, dyn cyfoethog 42 oed, ei drin gan Dr Hutchinson yn ei hen bractis deintyddol ym Mryste rhwng 2012 a 2016.
Cafodd dynnu rhai o'i ddannedd ac fe gafodd brês ei osod. Ond roedd yn anhapus, gan honni fod y driniaeth yn ei wenwyno.
Pan ddaeth y driniaeth i ben ddechrau 2016, roedd Dr Hutchinson yn disgwyl cwyn - ond ni chlywodd unrhyw beth pellach gan Baddeley.
Cafodd car Baddeley ei stopio gan yr heddlu ar noson 27 Tachwedd yn dilyn galwad gan aelod o'r cyhoedd.
Fe wnaeth swyddogion ganfod bod deunydd plastig yn gorchuddio tu mewn y car, a darganfuwyd "logiau gwyliadwriaeth" a ysgrifennwyd gan Baddeley, yn nodi symudiadau Dr Hutchinson dros y blynyddoedd.
'Gwyliadwriaeth systematig'
Roedd wedi'i ddilyn i'w bractis yng Nghas-gwent, i gynadleddau deintyddol a chyrsiau ledled y DU.
Yna fe brynodd tua 30 o geir gwahanol mewn ymgais i osgoi cael ei ganfod wrth gynnal "gwyliadwriaeth systematig" ar ei ddioddefwr.
Roedd y nodiadau a oedd yn cynllunio ar gyfer "y Digwyddiad" yn cynnwys lleoliad camerâu teledu cylch cyfyng, sut i beidio â gadael olion bysedd a sut i ateb cwestiynau'r heddlu.
Dedfrydwyd Baddeley, o Fryste, yn Llys y Goron Caerdydd i gyfanswm o 16 mis o garchar ym mis Awst ar ôl pledio'n euog i stelcian heb godi ofn, braw na gofid, a dwy drosedd o feddu ar arfau.
Gosodwyd gorchymyn atal amhenodol, gan gynnwys gwaharddiad ar fynd i rannau o Sir Fynwy.
Mae Baddeley yn wynebu hyd at bum mlynedd o garchar os yw'n torri'r gwaharddiad.
Dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins wrtho: "Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eich bod yn bwriadu achosi rhywfaint o niwed i Dr Hutchinson.
"Mae'n anodd rhagweld achos mwy difrifol na hyn."
'Edrych dros fy ysgwydd'
Mae Mr Hutchinson, 52, wedi cael gwybod bod Baddeley yn debygol o gael ei ryddhau o'r carchar ar drwydded yn ystod yr wythnosau nesaf.
Yn ei ddatganiad effaith ar ddioddefwyr i'r llys, dywedodd Dr Hutchinson: "Rwy'n credu y byddaf yn edrych dros fy ysgwydd yn disgwyl i Baddeley fod gerllaw am weddill fy mywyd."
Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod wedi bod "i uffern ac yn ôl" ac yn teimlo mewn cyflwr o "fygythiad cyson".
Deallodd ddifrifoldeb y sefyllfa pan gyrhaeddodd heddlu yn annisgwyl yn ei feddygfa, gan rybuddio y byddai'n cael ei gludo i "dŷ diogel" pe bai Baddeley yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra'n aros am yr achos llys.
'Dim ond darn o bapur'
"Pan fydd yn cael ei ryddhau, byddaf yn cael rhybudd," meddai Dr Hutchinson.
"Maen nhw wedi fy sicrhau bod y gorchymyn atal yn drylwyr iawn, ond yn y pen draw dim ond darn o bapur yw e.
"Rwy'n edrych dros fy ysgwydd yn gyson. Rwy'n teimlo ei fod yn gwybod popeth amdanaf fi a'r teulu, a does dim gallwn ni ei wneud.
"Mae wedi newid fy mywyd personol a fy mywyd proffesiynol."
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Nigel Fryer wrth y llys, er nad oedd cyfeiriad penodol at lofruddiaeth yn y llyfrau nodiadau a ganfuwyd, fod "tystiolaeth amgylchiadol gref" mai dyma'r hyn yr oedd "y Digwyddiad" yn cyfeirio ato.
Pan ofynnwyd am hyn yn ystod cyfweliadau'r heddlu, ni wnaeth Baddeley unrhyw sylw.
'Anarferol dros ben'
Dywedodd Mr Fryer wrth BBC Cymru fod gwir gymhelliad Baddeley "yn dal yn ddirgelwch".
"Rwyf wedi bod yn y proffesiwn ers 21 mlynedd bellach a dwi erioed wedi dod ar draws achos fel hyn," meddai.
"Roedd yn anarferol dros ben. Fel arfer bydd person sy'n cyflawni trosedd fel hyn yn cael boddhad o wneud bywyd y dioddefwr yn uffern - byddan nhw yn weladwy iawn - ond mae hwn bron yn achos unigryw lle mae rhywun yn gwbl groes, nad yw'n dymuno cael ei weld ac aeth ati i guddio ei weithredoedd.
"Mewn cyfweliad, dywedodd mai'r boddhad a gafodd oedd gwybod ei fod yn gwylio Mr Hutchinson, ond nid oedd e yn gwybod... dyna'r gic a gafodd e."
Roedd y ffaith nad oedd ei ddioddefwr yn ymwybodol yn golygu na ellid cyhuddo Baddeley o drosedd stelcian fwy difrifol, a fyddai'n golygu uchafswm o 10 mlynedd mewn carchar.
'Jôc llwyr'
Dywedodd Dr Hutchinson: "O ran y gyfraith, rwy'n teimlo fy mod wedi fy siomi... gyda'r awdurdodau yn dweud, 'mae'n ddrwg gennym ni, mae 'na fwlch cyfreithiol, dim byd mwy y gallwn ei wneud'.
"Mae'r cyhuddiadau, rwy'n teimlo, yn jôc llwyr.
"Roedd hon yn ymgais amlwg i fy herwgipio neu lofruddio. Dim ond drwy lwc yr oeddwn i yn hwyr gartref ac ni ddigwyddodd e.
"Rwy'n credu bod angen newid y gyfraith... mae angen mwy o amddiffyniad arnom ni rhag pobl fel hyn."
Dywedodd Mr Fryer er bod ganddo "gydymdeimlad" gyda Dr Hutchinson, roedd yn "amhosibl" cyhuddo Baddeley gyda throsedd fwy difrifol yn seiliedig ar ffeithiau'r achos a'r dystiolaeth.
Yn ôl Dr Jane Monckton-Smith, arbenigwr ar droseddeg fforensig a stelcian ym Mhrifysgol Caerloyw, fod y niwed i Mr Hutchinson yn "anfesuradwy" a bod yr achos yn tynnu sylw at fylchau yn y ddeddfwriaeth bresennol.
"Rwy'n credu bod ein deddfwriaeth stelcian wedi bod yn broblem o'r dechrau gan nad oes diffiniad cyfreithiol llym gwirioneddol o beth yw stelcian... a phan gewch chi achos fel hyn, fe welwch chi rai o'r problemau yma yn glir," meddai.
"Un peth y mae'r ddeddfwriaeth yn ei ddweud wrthym yw bod yn rhaid i'r dioddefwr fod wedi dychryn, neu o leiaf aflonyddu, gan yr ymddygiad, fod yn rhaid iddo fod yn ofn trais.
"Ac wrth gwrs yn yr achos hwn, roedd y bygythiad i'r dioddefwr yn ddifrifol iawn mewn gwirionedd, ond am nad oedd yn gwybod, mae bron yn cael ei drin fel pe bai'n drosedd lai."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref mewn datganiad: "Mae stelcian yn drosedd sydd yn achosi trallod ac rydym yn benderfynol o'i daclo.
"Fe wnaethon ni gyflwyno Gorchmynion Amddiffyn Stelcian ym mis Ionawr, sydd yn amddiffyn dioddefwyr ac yn trin ymddygiad y drwgweithredwyr ar y cyfle cyntaf. Rydym hefyd wedi dyblu'r cyfanswm o'r dedfrydau hiraf bosib am stelcian a phoenydio i 10 mlynedd."
Ychwanegodd: "Mae'r rhai sydd yn stelcian yn cael eu monitro'n agos gan y gwasanaeth prawf a'r heddlu ac os oes pryder am eu perygl i'r cyhoedd fe allasant gael eu galw'n ôl i'r carchar. Mae dioddefwyr hefyd yn cael clywed am amodau trwyddedau stelcwyr cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019