Ironman: Pryder am niferoedd er bod y ras wedi'i chanslo
- Cyhoeddwyd

Mae gan yr heddlu bryder y bydd nifer o bobl yn dilyn llwybr y ras er ei bod wedi'i chanslo
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn bryderus am nifer y bobl sy'n bwriadu nofio, seiclo a rhedeg llwybr ras Ironman Cymru dros y penwythnos, er bod y digwyddiad wedi'i ganslo.
Cafodd y digwyddiad, oedd i fod i gael ei gynnal y penwythnos hwn, ei ganslo ym mis Mehefin oherwydd y pandemig.
Ond mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn ymwybodol bod pobl yn bwriadu teithio i Ddinbych-y-pysgod a dilyn llwybr y ras er ei fod wedi'i chanslo.
Ar flwyddyn arferol mae dros 2,000 o athletwyr yn cymryd rhan yn nhreiathlon Ironman Cymru, sy'n gweld cystadleuwyr yn nofio 2.4 milltir a seiclo 112 milltir cyn rhedeg marathon.
Mae amcangyfrif bod y digwyddiad yn creu £3.7m i'r economi leol, ac fe wnaeth yr holl lefydd ar gyfer y digwyddiad eleni werthu o fewn ychydig oriau.
Galw am gadw at y rheolau
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Tra'n bod yn deall bod pobl wedi hyfforddi yn galed iawn i gystadlu, ac yn siomedig bod y ras wedi'i chanslo, ry'n ni'n bryderus am effaith rasio heb fod ffyrdd ynghau na'r gefnogaeth arferol ar gael."

Ar flwyddyn arferol mae dros 2,000 o athletwyr yn cymryd rhan yn nhreiathlon Ironman Cymru
Mae'r heddlu wedi rhyddhau datganiad ar y cyd â Chyngor Sir Penfro yn gofyn i unrhyw athletwyr sy'n bwriadu ymweld â'r dref dros y penwythnos i gadw at dair rheol:
Peidio seiclo mewn criwiau, a pheidio dilyn llwybr arferol y ras am y gallai'r ffyrdd fod yn brysur a pheryglus;
Sicrhau bod yr amgylchiadau yn ddiogel os ydy unrhyw un am nofio yn y môr;
Cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol wrth redeg, a rhoi lle i bobl eraill yn enwedig mewn mannau cul.
Bydd y digwyddiad y flwyddyn nesaf yn cael ei gynnal ar 12 Medi.
"Ry'n ni'n edrych ymlaen at groesawu athletwyr a chefnogwyr yn ôl i Ddinbych-y-pysgod y flwyddyn nesaf," meddai'r heddlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2019