Brwydr dau o sêr y byd chwaraeon yn erbyn alcohol
- Cyhoeddwyd
"Sut gallwn i fod yn alcoholig?"
Mae'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Thomas a'r cyn-bencampwr bocsio Russell Pearson wedi bod yn gaeth i alcohol.
Roedd y ddau yn yfed yn drwm yn ystod eu gyrfaoedd ond ar ôl ymddeol fe wnaeth y ddau ofyn am gymorth.
Maent am godi ymwybyddiaeth ac addysgu eraill, y tu mewn a'r tu allan i'r byd chwaraeon, er mwyn atal mwy rhag dioddef.
"Rwy'n teimlo dyletswydd i fod yn onest", meddai Rhys Thomas a ymddeolodd yn 2012 yn dilyn trawiad ar y galon wrth hyfforddi gyda'r Scarlets.
Ar ôl llawdriniaeth ar ei galon, rhoddwyd y prop ar restr aros am drawsblaniad.
Cafodd pwmp ei ffitio i ostwng gorbwysedd rhydwelïol ei ysgyfaint a'r uchafswm y gallai ei yfed bob dydd oedd dwy litr a hanner o hylif.
"Roeddwn i mewn cyflwr ofnadwy. Ro'n i ar restr trawsblannu'r galon ac ro'n i'n yfed gyda gwifren yn dod allan o'm stumog.
"Os byddai'n cael ei thynnu oddi yno byddwn yn debygol o farw," ychwanegodd Mr Thomas sy'n 38 oed.
'Yfed gwirodydd drwy'r dydd'
Dywedodd y prop ei fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi â cholli ei yrfa, y byd chwaraeon a'i iechyd.
"Byddwn i'n deffro yn y bore ac yn yfed gwydraid bach 200ml o ddŵr... ac yna yn mynd allan am y dydd gan yfed gwirodydd heb unrhyw ddiod arall fel sudd wedi'i ychwanegu er mwyn cadw i'r uchafswm hylif yna... ar y pryd roedd hyn yn ymddangos yn gwbl dderbyniol, ond ar ôl meddwl, yr oedd hyn yn wallgof".
Ychwanegodd y tad i bedwar ei fod yn arfer cael "pyliau o banig, lle roeddwn i'n meddwl fy mod i'n cael trawiad arall ar y galon, ond fi oedd yn achosi rhain, doedd dim rhaid iddyn nhw ddigwydd".
Dywedodd Mr Thomas, sydd wedi bod yn sobr ers blwyddyn, ei fod yn siarad nawr er mwyn ceisio addysgu eraill.
Dywedodd ei fod wedi cael gyrfa rygbi "anhygoel" a llawer o hwyl, ond pe bai wedi bod yn fwy ymwybodol o'i iechyd meddwl ei hun ac wedi cael gwybod mwy am ddibyniaeth ar alcohol, efallai y byddai'r canlyniadau yn wahanol."
Ychwanegodd bod mwy o gymorth ar gael o fewn y byd chwaraeon bellach ond mae am rannu ei stori i helpu eraill.
O ran y cyn-bencampwr bocsio Russell Pearce, daeth y cyfnod tywyllaf iddo fe ar ôl iddo gael ei arestio.
"Roeddwn ar fy mhen fy hun yn y gell yn meddwl am lwyddiant fy ngyrfa gan sefyll ar y podiwm yn gwrando ar yr anthem genedlaethol ond roeddwn i mewn cell am ddwyn alcohol."
Pan drodd Pearce yn broffesiynol yn 18 oed dysgodd yn fuan ei fod yn cael yr un tâl am ennill neu golli.
Yfed poteli o fodca bob dydd
Daeth i weld bocsio fel ffordd o'i helpu i yfed.
"Dyna pryd y dechreuodd pethau lithro. Sylweddolais y gallwn fynd i ornest focsio a pheidio rhoi fy ngorau. Byddwn yn cael fy nhalu ac yna mynd allan gyda fy ffrindiau eto".
Llithrodd gyrfa'r dyn 33 oed. Yn fuan roedd yn byw mewn fflat fechan yn Y Trallwng, ei dref enedigol, yn yfed poteli o fodca bob dydd.
"Pan nad oedd gen i arian ar ôl, es i'r siop leol i ddwyn alcohol, cefais fy nal ac o ganlyniad cefais fy arestio," meddai.
Tra'i fod mewn cell, ymwelodd aelod o'r elusen cyffuriau ac alcohol Kaleidoscope ag ef, ac fe drawsnewidiwyd ei fywyd.
Mae'r paffiwr, sydd wedi ymddeol bellach yn weithiwr cymorth i'r elusen a fis nesaf bydd wedi bod yn sobr ers tair blynedd.
Mae'n dweud ei fod yn credu bod y pwysau ychwanegol mewn chwaraeon ar y lefel uchel yn gallu atal rhai athletwyr rhag chwilio am gymorth.
"Does dim digon o ymwybyddiaeth o ddibyniaeth. Pe bai rhywun wedi gofyn i mi pan oeddwn yn bocsio, pwy ydych chi'n troi ato os ydych chi'n meddwl bod gennych broblem yfed, fyddai dim syniad gen i," meddai.
Awgrymodd astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017 fod achosion niferus o gamddefnyddio sylweddau mewn chwaraeon yn peri mwy o risg o ddibyniaeth i unigolion sydd yn barod yn fregus.
Mae'n nodi y gall diwylliant a gofynion cystadleuol chwaraeon, yn ogystal â diwedd gyrfa chwaraeon, greu amgylchedd lle mae dibyniaeth yn datblygu.
'Gall effeithio ar bawb'
Mae Sian Edwards, myfyriwr doethuriaeth sy'n ymchwilio i ddibyniaeth mewn chwaraeon, yn credu bod llawer o stigma a chywilydd o hyd a all ei gwneud hi'n anodd i bobl siarad am y pwnc.
Dywedodd y fyfyrwraig sy'n astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn deall dibyniaeth.
"Un o'r anawsterau o ran dibyniaeth yw ein bod yn ceisio cael un olwg ar y sefyllfa ond mewn gwirionedd does dim darlun nodweddiadol o'r cyflwr. Mae'n effeithio ar bobl o bob cefndir mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae llawer o wahanol fathau o ymddygiad caethiwus."
Ychwanegodd fod chwaraeon ac alcohol yn aml yn mynd law yn llaw ond gall yr arwyddion am ddibyniaeth gael eu cuddio yn aml.
"Weithiau mae'n anodd gweld sut y gall rhywun fod yn gaeth i rywbeth os ydyn nhw yn mynd allan ar y cae rygbi neu'n mynd i focsio gan berfformio mewn ffordd na allai'r rhan fwyaf o bobl fyth ei wneud".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018