Achubiaeth i Reilffordd Ffestiniog wedi'r cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
gwirfoddolwyrFfynhonnell y llun, Y Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr arian yn talu am gostau staff ac atgyweirio

Mae cwmni sy'n ceisio gwarcho treftadaeth rheilffyrdd y gogledd yn dweud eu bod wedi gorfod brwydro am eu dyfodol pan ddaeth eu hincwm i ben oherwydd Covid-19.

Mae Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru'n dweud eu bod wedi methu talu am waith atgyweirio pan fu'n rhaid iddyn nhw gau yn ystod eu tymor prysuraf oherwydd y cyfnod clo.

Maen nhw nawr wedi cael grant argyfwng o £250,000 gan y Loteri Genedlaethol.

Heb yr arian, dywedodd y rheolwr Paul Lewin na fydden nhw wedi medru "gwneud gwaith pwysig iawn".

Mae'r cwmni'n rhedeg gwasanaethau ar lein Ffestiniog rhwng Porthmadog a Than y Bwlch, a hefyd ar lein Ucheldir Cymru rhwng Caernarfon a Beddgelert.

Ond daeth y gwasanaethau i ben yn ddisymwth ym mis Mawrth gan olygu colli incwm y tymor prysuraf i dwristiaid dros yr haf.

Ffynhonnell y llun, Y Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr a staff yn dweud bod y trenau bellach yn ôl ar y cledrau

Mae'r gwasanaeth wedi dychwelyd, ond gyda nifer yn llai o deithwyr oherwydd cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol, a dywedodd y cwmni nad oedden nhw'n medru talu am waith pwysig i warchod y lein ac adeiladau.

Mae'n un o nifer o reilffyrdd ar draws y DU i dderbyn arian Loteri o'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth.

Dywedodd Mr Lewin: "Heb yr arian yma, fydden ni fyth wedi gallu fforddio parhau gyda'r gwaith pwysig eithriadol yma ar ôl colli pedwar mis o'n tymor prysur.

"Fe ddaeth Covid-19 â'n holl ymdrechion i stop yn sydyn, ac fe allai hynny fod wedi bod yn niweidiol iawn."