Trên Bach Yr Wyddfa yn ôl ar y cledrau, ond nid i'r copa

  • Cyhoeddwyd
Rheilffordd Yr Wyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Tri-chwarter ffordd i fyny'r Wyddfa fydd y trenau'n mynd am y tro gan fod Hafod Eryri ar gau

"Dewch ar y trên bach i ben Yr Wyddfa fawr" galwodd Hogiau Llandegai, ac mi fydd modd gwneud hynny eto o ddydd Gwener ymlaen wrth i'r atyniad ailddechrau gwasanaethau.

Mae wedi bod yn wythnos brysurach i nifer o atyniadau awyr agored Cymru, wrth gwrs, wrth iddyn nhw gael ailagor wedi'r cyfnod clo.

Mae Rheilffordd Yr Wyddfa, fel sawl atyniad arall, wedi gorfod cyflwyno newidiadau er mwyn diogelu'r cyhoedd - gan geisio sicrhau na fydd y profiad unigryw o ddringo mynydd uchaf Cymru ar y cledrau'n rhy wahanol i'r arfer.

Yn ôl Chris Jones, rheolwr refeniw y cwmni, maen nhw wedi gwneud popeth posib i warchod y cwsmeriaid.

'Gaeaf hir'

"Be 'da ni 'di gorfod gwneud efo'r carriages, efo'r adrannau gwahanol 'da ni wedi gorfod rhoi perspex i fewn i wahanu'r bobl," meddai.

"Bob tro fydd y trenau'n dod i mewn, fyddan nhw'n cael eu llnau o'r top i'r gwaelod.

"'Da ni wedi haneru bron faint o bobl 'da ni'n mynd. Fel arfer o'ddan ni'n gallu mynd a thua 74 a rŵan mae o i lawr i rhyw 30 - ond mae hynny'n dibynnu os mai grwpiau neu unigolion ydyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Jones bod y trenau'n "cael eu llnau o'r top i'r gwaelod" cyn pob taith

Mae ailagor y lein yn rhyddhad mawr i'r gwasanaeth, sydd wedi methu agor o gwbl ers cychwyn yr argyfwng Covid-19.

Y llynedd, roedden nhw wedi buddsoddi £1.2m mewn dau drên newydd oedd yn rhedeg ar ddisel a thrydan, felly mae cael incwm eleni yn hanfodol.

"Mae 'di bod yn aeaf hir," meddai Mr Jones.

"Roedd y busnes 'di rhoi lot o bres i mewn y llynedd ond 'da ni ddim wedi bod yn cymryd pres i mewn.

"'Da ni'n edrych ymlaen i weld y trenau hybrid newydd yn cael mynd i dop Yr Wyddfa.

"Dwi'n meddwl basa hi wedi bod yn haws tasen ni wedi cael rhyw fath o ddyddiad i weithio at ond dyna ni, 'da ni'n deall bod hynny'n anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae sgriniau plastig wedi cael eu gosod rhwng pob rhes er mwyn amddiffyn teithwyr

Ond oherwydd y pryder am fethu â chadw pellter cymdeithasol yn adeilad Hafod Eryri ar y copa, tri-chwater ffordd i fyny'r mynydd fydd y trenau'n mynd.

Er mai Rheilffordd Yr Wyddfa sy'n rheoli adeilad Hafod Eryri a chopa'r Wyddfa, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn rhan amlwg o'r trafodaethau ac yn cytuno'n llwyr gyda'r penderfyniad i beidio agor yr adeilad.

"O ran capasiti ar y copa, lle mae 'na bron i 6,000 o bobl yn cyrraedd bob dydd - o'dd hi jyst yn amhosib i agor yr adeilad a sicrhau bod pobl yn saff," meddai Helen Pye o'r awdurdod.

"'Da ni am wneud popeth fedrwn ni o ran cael y neges yna allan i ymwelwyr cyn iddyn nhw gyrraedd."

'Ychydig yn nerfus' am niferoedd ymwelwyr

Mae holl lwybrau Eryri wedi ailagor yr wythnos hon, ac mae'r awdurdod yn dweud eu bod wedi gweithio ddydd a nos i sicrhau bod yr ardal yn gallu ymdopi gyda chynnydd posib mewn ymwelwyr.

"'Da ni mewn ffordd yn aros am y penwythnos i weld be' fydd yn digwydd," meddai Ms Pye.

"Pwy a ŵyr os fydd niferoedd yr ymwelwyr yn uchel ai peidio - ond un peth 'da ni'n gwybod ydy'n bod ni 'di gwneud pob dim fedran ni i sicrhau bod yr ardal a'r amgylchedd yn cael ei warchod.

"'Da ni, fel y cymunedau, ychydig yn nerfus i weld be' fydd yn digwydd - ond yn croesi bysedd bydd popeth yn iawn."