Cwpan y Gynghrair: Casnewydd 2-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Casnewydd v AbertaweFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd Casnewydd yn drech nag Abertawe yn y frwydr rhwng dau dîm o Gymru yn rownd gyntaf Cwpan y Gynghrair yn Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Cafodd y tîm cartref ddechrau gwych wrth iddyn nhw fynd ar y blaen wedi dim ond 7 munud, gyda Tristan Abrahams yn rhwydo.

Dyblwyd mantais y tîm o Adran Dau ar ddiwedd yr hanner cyntaf wrth i Abrahams ychwanegu ei ail gôl o'r gêm.

Cafodd yr Elyrch fwy o gyfleoedd yn yr ail hanner, gyda Matt Grimes yn taro'r trawst a Wayne Routledge yn rhoi'r bêl yn y rhwyd, cyn i'r dyfarnwyr benderfynu ei fod yn camsefyll.

Ond llwyddodd Casnewydd i ddal eu gafael a sicrhau buddugoliaeth wych fydd yn golygu mai nhw fydd yr unig dîm o Gymru yn ail rownd Cwpan y Gynghrair.