Cynllun am dai gwydr anferth gwerth £50m yn 'afrealistig'
- Cyhoeddwyd
Mae'n debyg na fydd cynllun i adeiladu dau dŷ gwydr enfawr yn Wrecsam, fyddai wedi creu hyd at 150 o swyddi, yn mynd yn ei flaen yn dilyn oedi i'r broses gynllunio.
Mae'r datblygwr, Low Carbon Farming, yn honni y gallai'r safle gwerth £50m ddarparu 5% o holl giwcymbrau a thomatos y DU.
Ond mae'r cwmni'n dweud y gallai fod rhaid iddo gefnu ar y prosiect wedi i oedi yn broses gynllunio olygu ei fod wedi methu'r amserlen ar gyfer derbyn cymhelliant ariannol gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd Cyngor Wrecsam bod y cais yn "anhygoel o uchelgeisiol ac yn afrealistig mewn nifer o ffyrdd".
'Angen penderfyniad cyn diwedd Medi'
Roedd Low Carbon Farming, sydd eisoes yn rhedeg dau safle tebyg yn Lloegr, wedi rhybuddio Cyngor Wrecsam ym mis Gorffennaf y gallai dynnu'r cais yn ôl os na fyddai penderfyniad wedi'i wneud erbyn diwedd Medi.
Dywedodd y cwmni, pe bai'r penderfyniad yn cael ei wneud ar ôl hynny, na fyddai'n gymwys ar gyfer cymhelliant gan Lywodraeth y DU, gan wneud y prosiect yn llai ymarferol yn ariannol.
Roedd Andy Allen o'r cwmni wedi gobeithio y byddai'r cais yn cael ei drafod gan bwyllgor cynllunio'r cyngor ddydd Llun ond nid yw'n ymddangos ar yr amserlen.
"Ry'n ni'n parhau i weithio'n adeiladol gyda'r adran gynllunio i oresgyn y rhwystrau, ond ry'n ni angen i'r pwyllgor cynllunio gynnal cyfarfod arbennig cyn diwedd Medi," meddai.
Disgwyliadau 'afrealistig'
Dywedodd Cyngor Wrecsam mewn datganiad bod y cais a disgwyliadau'r cwmni yn "anhygoel o uchelgeisiol ac yn afrealistig mewn nifer o ffyrdd".
"Mae'r broses ymgynghori wedi codi pryderon sydd angen mwy o wybodaeth ac asesu," meddai'r datganiad.
"Nes bod y rhain yn cael eu cwblhau dyw ein swyddogion ddim mewn safle i wneud argymhelliad.
"Dydyn ni ddim yn gallu anwybyddu'r broses gynllunio mewn unrhyw ffordd ac ry'n ni yn mynd trwy'r prosesau cywir ar hyn o bryd, a bydd penderfyniad unwaith y bydd y broses yma wedi'i chwblhau."