'Anhygoel': Ymateb cefnder Neco Williams i'r gôl
- Cyhoeddwyd
Dyw Dafydd Evans o Borthmadog ddim yn gallu coelio'r hyn ddigwyddodd yn ystod gêm bêl-droed Cymru brynhawn dydd Sul.
Roedd gweld ei gefnder yn dod ar y cae fel eilydd ac yn cipio'r fuddugoliaeth yn erbyn Bwlgaria i Gymru yn "unbelievable" meddai.
"O'n i methu coelio'r peth a deud y gwir wrthoch chdi," meddai wrth raglen Post Cyntaf.
"Mae o yn un peth gwatshiad o'n chwarae i Lerpwl, mae'n beth hollol wahanol gweld o'n sgorio i Gymru."
Fe beniodd Neco Williams y gôl fuddugol yn eiliadau olaf y gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd, yn ei ail ymddangosiad i'r tîm cenedlaethol.
Mae'r dyn ifanc 19 oed, sy'n chwarae i Lerpwl, wedi dweud bod y foment aeth y bêl i mewn yn un "swreal".
Yn Wrecsam y cafodd Neco Williams ei eni a'i fagu ac mae ei rieni yn Gymry gyda'i dad yn gallu siarad Cymraeg.
Ac er ei fod yn gymwys i chwarae i Loegr trwy berthynas deuluol doedd hynny ddim yn ystyriaeth, meddai wrth y BBC.
"Roedd Lloegr yn trio ffonio fy asiant lot ac eisiau siarad gyda fi ond doeddwn i ddim isio gwybod.
"Mae fy nheulu yn Gymraeg, dwi'n Gymro ac mae fy ffrindiau yn Gymraeg. Felly Cymru oedd hi am fod o'r dechrau," meddai.
'Pawb yn sgrechian dros y lle'
Mae Dafydd Evans wedi hen arfer gweld ei gefnder ar y cae pêl-droed.
"Dwi 'di bod yn gwatshiad o dros y blynyddoedd a bob tro mae o'n mynd ymlaen a bob tro mae 'na chance iddo fo sgorio de."
Gyda rhieni a theulu Neco Williams yn Wrecsam oedd Dafydd Evans pan wnaeth o sgorio'r gôl. Mae'n dweud fod yr ymateb wedi bod yn wallgof.
"Odd o jest yn nuts, absolutely nuts, pawb yn sgrechian dros y lle a bob dim. Unreal o deimlad."
Ac mae'n dweud nad ydy o yn gallu dweud mewn geiriau pa mor falch ydy o o Neco.
"O watshiad o yn yr under-9s pan oedd o'n hogyn bach i watshiad o yn cael ei gôl gyntaf i Gymru, mae o jest yn unbelievable a gobeithio geith o lot mwy hefyd!"
'Abl' i guro Lloegr
Lloegr yw gwrthwynebwyr nesaf Cymru mewn gêm gyfeillgar fis nesaf.
Y tro diwethaf iddyn nhw gyfarfod oedd ym mhencampwriaeth Euro 2016. Mae'r cefnwr yn hyderus bod gan Gymru'r gallu i'w curo.
"Gyda'r ansawdd sydd gyda ni yn y tîm 'da ni'n mynd i brofi iddyn nhw ein bod ni yn ddigon abl i'w curo. Dwi'n siŵr y bydd hi'n gêm grêt.
"Mae'r bechgyn i gyd yn edrych ymlaen a methu aros tan y gêm," meddai Neco Williams.
Un dymuniad sydd gan Dafydd Evans - y bydd ei gefnder yn cael dechrau y 90 munud y tro hwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2020
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2020