Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 1-0 Bwlgaria
- Cyhoeddwyd
Mae gan Gymru seren newydd wedi i gôl gan Neco Williams yn yr eiliadau olaf sicrhau buddugoliaeth mewn gêm ddiflas yn erbyn Bwlgaria yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd hi'n ddechrau distaw iawn i'r gêm, gyda'r un tîm yn llwyddo i greu unrhyw gyfleoedd o safon trwy gydol yr hanner cyntaf.
Yr unig gyfleoedd o bwys yn y 45 munud cyntaf oedd cic rydd yn syth i ddwylo'r golwr gan Gareth Bale, ac ergyd heibio i'r postyn gan David Brooks.
Fe ddechreuodd Cymru'r ail hanner yn well, ond doedden nhw ddim yn gallu canfod ffordd trwy amddiffyn Bwlgaria, gyda Kieffer Moore yn cael ei gosbi'n gyson wrth gystadlu gyda'r gwrthwynebwyr am y bêl yn yr awyr.
Daeth Hal Robson-Kanu ymlaen yn ei le wedi awr o chwarae er mwyn ennill ei gap cyntaf ers 2017, ar ôl newid ei benderfyniad i ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Cafodd Daniel James hanner cyfle ar ôl 67 munud ond aeth ei ergyd o ymyl y cwrt cosbi yn syth i ddwylo'r golwr Georgi Georgiev.
Daeth cyfle amlwg cynta'r gêm ychydig funudau'n ddiweddarach, gydag ergyd gan Brooks yn taro'r gornel rhwng y postyn a'r trawst yn dilyn gwaith da gan Bale a James.
Roedd hi'n edrych fel y byddai'r gêm yn gorffen yn ddi-sgôr cyn i amddiffynnwr 19 oed Lerpwl benio i'r rhwyd o groesiad Johnny Williams yn yr eiliadau olaf.
Bydd Ryan Giggs yn falch o'i benderfyniadau gyda'i eilyddion hefyd, gyda Neco a Johnny Williams wedi dod ymlaen i gymryd llefydd Connor Roberts a David Brooks yn yr ail hanner.
Ennill pedair gêm heb ildio gôl
Dydy Cymru bellach ddim wedi cael eu trechu yn eu wyth gêm ddiwethaf ers y golled yn Hwngari ym mis Mehefin 2019, ac maen nhw wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf heb ildio gôl.
Mae Cymru mewn safle cryf iawn yn y grŵp yn dilyn y fuddugoliaeth yn Y Ffindir nos Iau, gyda chwe phwynt o'r ddwy gêm gyntaf.
Bydd Gweriniaeth Iwerddon yn herio'r Ffindir yn y gêm arall yn y grŵp ddydd Sul, gyda'r gic gyntaf am 17:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020