Pryder na fydd gwaith i ddisgyblion anghenion arbennig

  • Cyhoeddwyd
Lucy tries out a new sensory experience
Disgrifiad o’r llun,

Lucy yn mwynhau arbrofi

Dywed pennaeth ysgol anghenion arbennig mwyaf y DU ei fod yn ofni y bydd Covid-19 yn ei gwneud hi'n anodd i'w ddisgyblion ddod o hyd i waith.

Yn ôl Chris Britten, pennaeth Ysgol y Deri ym Mhenarth, Bro Morgannwg, bydd hi'n her i bobl gydag anghenion arbennig ddod o hyd i waith pwrpasol.

"Bydd cyflogwyr yn cael eu boddi gan geisiadau a bydd cymaint o bobl yn ceisio am swyddi ar bob lefel," meddai.

"Mae'n disgyblion ni, fel arfer, yn cael gwaith mewn diwydiannau sy'n gwasanaethu pobl ond fe fydd graddedigion, mae'n siŵr, yn cystadlu am yr un swyddi ac mae'n mynd i fod yn anodd iawn i bawb."

Roedd Mr Britten yn siarad ar drothwy rhaglen deledu am yr ysgol. Mae dros 300 o ddisgyblion yn yr ysgol rhwng tair ac 19 oed ac mae hi wedi gwahodd camerâu i'r adeilad am y tro cyntaf erioed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Luke wedi defnyddio cadair olwyn ers yn dair oed

Ymhlith y disgyblion fydd yn ymddangos ar y rhaglen mae Luke sy'n 16 oed ac sy'n byw gyda chyflwr niwrolegol prin Schizencephaly.

Mae'n gobeithio y bydd y gyfres yn addysgu pobl am anghenion pobl ifanc tebyg iddo.

'Hwn yn gyfle da'

"Dyw lleisiau pobl ag anableddau ddim yn cael eu clywed yn aml, ac felly mae hwn yn gyfle da", meddai.

Dywed Luke ei fod yn teimlo ei fod wedi'i gaethiwo yn ei gorff a'i fod yn casáu cael ei gamddeall.

Mae'n defnyddio technoleg i'w helpu i gyfathrebu. Mae ei lygaid yn gweithredu cyfrifiadur sy'n llefaru ei eiriau.

"Roedd hi'n waith blinedig ffilmio ar gyfer y rhaglen ddogfen gan bod yn rhaid i fi syllu llawer - mae'r cyfan yn edrych yn hawdd ond rhaid canolbwyntio'n ddi-baid," meddai Luke.

Mae'n credu bod Ysgol y Deri yn arbennig am sawl rheswm.

"Mae'r plant yn unigryw ac maent yn dod â rhywbeth arbennig i'r ysgol ac i'r gymdeithas.

"Mae'r ysgol yn galluogi'r plant i ddysgu er gwaethaf eu hanableddau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Britten yn gobeithio y bydd y gyfres yn cyflwyno i'r gwylwyr "ddisgyblion a staff arbennig" yr ysgol

Fel miloedd, aeth disgyblion Ysgol y Deri yn ôl i'r ysgol wythnos ddiwethaf am y tro cyntaf ers y cyfnod clo.

Dywed Mr Britten bod yr ysgol yn gwneud popeth i gadw'r disgyblion a staff yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn, ac mae staff wedi cael cyfarpar diogelwch personol llawn (PPE).

Mae'r disgyblion, meddai, yn derbyn bod staff yn gorfod gwisgo gorchuddion wyneb, ffedogau a menig.

Ond mae'n cydnabod bod ymbellhau cymdeithasol yn gallu bod yn anodd gan fod cofleidio aelod o staff wedi bod yn beth normal i'w wneud yn y gorffennol.

Daeth y gwaith ffilmio i ben yn yr ysgol ym Mhenarth ym mis Mawrth oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod clo.

Mae'r pennaeth yn hyderus y bydd y rhaglen yn cyflwyno darlun byw iawn o fywyd yr ysgol a dywed fod yr ymateb i hysbysebion am y rhaglenni wedi bod yn anhygoel.

"Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau'r rhaglenni, a gweld yr ysgol fel y mae hi gyda'i disgyblion a'i staff arbennig. Fe fydd hynna'n ddigon i fi."

Bydd rhaglen gyntaf A Special School yn cael ei darlledu ar BBC 1 Cymru, ddydd Llun, 14 Medi am 20:30.