Y Bencampwriaeth: Preston 0-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Sgoriodd Morgan Gibbs-White yn ei ymddangosiad cyntaf i Abertawe wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth oddi cartref yn eu gêm agoriadol o'r tymor newydd.
Yr Elyrch gafodd y gorau o'r hanner cyntaf, gyda chwaraewr newydd arall, Jamal Lowe, yn methu gyda chwpl o gyfleoedd.
Roedd Lowe, cyn flaenwr Wigan, yn un o dri chwaraewr newydd yn nhîm Abertawe, gyda Korey Smith a Gibbs-White yn dechrau yng nghanol y cae.
Fe lwyddodd Jake Bidwell i gael y bel yn y rhwyd munud yn unig wedi'r egwyl, ond penderfynodd y barnwr fod yna gamsefyll.
Pum mund yn ddiweddarach roedd Abertawe ar y blaen.
Fe wnath pas Andre Ayew ddod o hyd i Bidwell o fewn y bwlch cosbi, ac fe wnaeth ei groesiad isel gyrraedd Gibbs-White - sydd ar fenthyg o Wolves - ac roedd hi'n 1-0.
Tua diwedd y gêm, fe bwysodd Preston am y gôl gyfartal ond yn ofer, gydag ergyd Brad Potts yn mynd dros y bar.