Cwpan y Gynghrair: Casnewydd 1-0 Caergrawnt
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd wedi llwyddo i gyrraedd trydedd rownd Cwpan y Gynghrair ar ôl iddyn nhw drechu Caergrawnt yn Rodney Parade nos Fawrth.
Y tîm cartref oedd yn pwyso yn yr hanner cyntaf, ond ni lwyddodd yr un tîm i ganfod cefn y rhwyd yn yr hanner cyntaf.
Daeth unig gôl y gêm gyda 10 munud yn weddill, wrth i Scott Twine rwydo gydag ergyd bwerus o ymyl y cwrt cosbi ar ôl i Gaergrawnt fethu â chlirio'r bêl yn diyn cic gornel.
Bydd yr Alltudion yn croesawu Watford o'r Bencampwriaeth i Rodney Parade yn y drydedd rownd, wedi iddyn nhw drechu Rhydychen ar giciau o'r smotyn nos Fawrth.
Bu'n rhaid i Gasnewydd drechu Abertawe er mwyn cyrraedd yr ail rownd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2020