Diwedd cwarantin i deithwyr o Wlad Thai a Gibraltar

  • Cyhoeddwyd
gibraltarFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd teithwyr sy'n dychwelyd i Gymru o Gibraltar neu Wlad Thai ddim yn gorfod hunan-ynysu o ddydd Sadwrn ymlaen.

Ond mae Guadeloupe yn y Caribî a Slofenia yn cael eu tynnu o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio o gwarantin, a bydd yn rhaid i deithwyr hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl teithio yno.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething y bydd y rheolau newydd yn dod i rym am 04:00 ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU ddod â mesurau cwarantin i rym ar 8 Mehefin, ond mae gan Lywodraeth Cymru'r hawl i gyflwyno eithriadau neu ychwanegu at y rhestr.