Plaid Cymru yn galw am fwy o reolaeth ar ail gartrefi

  • Cyhoeddwyd
Aberdaron
Disgrifiad o’r llun,

Aberdaron: Mae gan Wynedd fwy o ail gartrefi nag unman arall yng Nghymru

Mae Plaid Cymru yn galw am greu deddfwriaeth newydd fyddai'n rhoi cap ar nifer yr ail gartrefi ym mhob cymuned.

Ddydd Mercher fe fydd y Blaid yn cyhoeddi adroddiad 16 tudalen ar effaith dai haf ar gymunedau.

Yn ogystal â chyfyngu ar y niferoedd, maen nhw'n galw am hawliau i godi mwy o dreth y cyngor ar ail gartrefi.

Y nod, medd Plaid Cymru, yw "gwarchod cymunedau a phrynwyr tro cyntaf yn erbyn yr annhegwch economaidd sy'n deillio o orwerthiant ail dai".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn monitro'r sefyllfa a'u bod eisoes wedi cyflwyno mesurau "sy'n cydnabod her ail gartrefi a thai gwag i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau."

Bydd cynigion Plaid Cymru yn cael eu trafod mewn dadl yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn ddiweddarach.

Maen nhw'n galw am:

  • Newidiadau i'r maes cynllunio fyddai'n galluogi cynghorau i osod cap ar ail gartrefi ym mhob cymuned

  • Caniatáu i gynghorau codi'r dreth cyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200%

  • Cau'r bylchau a diweddaru'r gyfraith sy'n golygu bod modd optio allan o drethi domestig ac o'r premiwm treth cyngor

  • Rheoli'r gallu i osod tŷ annedd ar sail tymor byr drwy gwmnïau fel AirBnB am rannau helaeth o'r flwyddyn

  • Dod â thai o fewn cyrraedd lleol - gan gynnwys y posibilrwydd o sefydlu cronfai ddatblygu tai gydag amod lleol arnynt

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Delyth Jewel: 'Angen fwy o reolaeth'

Dywedodd Delyth Jewell, llefarydd Plaid Cymru ar dai: "Cafodd traean o dai yng Ngwynedd a Môn eu prynu fel ail dai yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac mae 12% o stoc tai Gwynedd bellach yn ail dai dan berchnogaeth pobl tu allan i'r sir, sydd ymysg yr uchaf yn Ewrop.

"Mae'r cyfres o fesurau mae Plaid Cymru yn eu cyhoeddi heddiw wedi eu dylunio er mwyn dod â'r sefyllfa dan reolaeth a grymuso cymunedau gydag ymyraethau penodol a chytbwys, ac rwy'n gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ddifri."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod her ail gartrefi a thai gwag i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau yng Nghymru.

"Rydym ar y trywydd iawn at godi 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod tymor y Senedd hon, a Chymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i roi pwerau i awdurdodau lleol allu codi lefelau uwch o dreth gyngor ar ail gartrefi a thai gwag hirdymor.

"Mae ein Treth Trafodiadau Tir hefyd yn cynnwys tâl ychwanegol o 3% ar gyfer prynu ail gartref neu brynu i osod yng Nghymru, ac yn ddiweddar gwnaethom newid ein meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth busnes ar gyfer llety hunanddarpar.

"Rydym yn parhau i fonitro'r system yn agos a byddwn yn gwneud newidiadau pellach os bydd angen."