Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-2 Reading

  • Cyhoeddwyd
Marlon Pack yn herio Michael OliseFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Caerdydd yn dal heb ennill ar eu tomen eu hunain y tymor hwn wedi i'r tîm ar frig y Bencampwriaeth ymestyn eu record 100%.

1-2 oedd y sgôr terfynol - gyda'r goliau i gyd yn dod yn yr ail hanner.

Aeth Reading ar y blaen wedi 47 o funudau trwy beniad Michael Morrison - ei gôl gyntaf i'w dîm newydd ers ymuno o Birmingham.

Roedd yna fwy o hyder yn chwarae Caerdydd am gyfnod ond fe ymatebodd Reading trwy ddyblu'r fantais wedi 66 o funudau.

Cafodd Lucas Joao y gorau o Curtis Nelson ar ôl derbyn y bêl ar ymyl y cwrt cosbi a thanio ergyd heibio Alex Smithies.

Daeth gôl gysur yr Adar Gleision wedi 81 o funudau. Sgoriodd Lee Tomlin gydag ergyd droed chwith o agos i gornel y rhwyd wedi i'r golwr arbed peniad gan Kieffer Moore.

Mae Caerdydd wedi sicrhau tri phwynt yn unig wedi tair gêm.