Dim consensws ynglŷn ag oedi etholiadau'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
blwchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn 2021

Mae'r pleidiau gwleidyddol yn y Senedd wedi methu â dod i gytundeb ynglŷn â chynigion fyddai'n caniatáu gohirio etholiadau'r Senedd yn 2021 oherwydd y risg o ledu coronafeirws.

Ar 6 Mai bydd pobl Cymru yn dewis eu cynrychiolwyr ar gyfer y Senedd ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Llafur, Plaid Cymru a'r Democrataidd Rhyddfrydol y byddan nhw o blaid symud y dyddiad "pe bai'r sefyllfa yn hynod ddifrifol".

Ond dywedodd y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit fod pobl mewn gwledydd eraill wedi llwyddo i gynnal etholiadau o dan amgylchiadau tebyg.

Gydag ychydig dros chwe mis cyn y dyddiad pleidleisio, mae bron i ddau filiwn o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd dan gyfyngiadau lleol.

Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth

Yr etholiad Senedd nesaf fydd y tro cyntaf i bobl 16 ac 17 oed gael bwrw pleidlais.

Mewn cyfweliad blaenorol dywedodd Mark Drakeford wrth ITV Cymru na fyddai'r "bleidlais yn cael ei chynnal mewn modd confensiynol" ond ychwanegodd ei fod o'r "farn ei fod yn iawn i'w chynnal".

Fe fethodd y grŵp trawsbleidiol â chytuno ar gynnig ble byddai modd oedi'r etholiad pe bai gwir angen.

Doedd dim consensws chwaith ynglŷn â chynnal pleidlais dros gyfnod o ddiwrnodau yn hytrach nag un diwrnod yn unig.

Ond roedd cytundeb mai'r bwriad ddylai fod i gynnal yr etholiad ar 6 Mai 2021.

Annog pleidleisio drwy'r post

Fe fydd y grŵp yn cwrdd fore Mawrth er mwyn cwblhau eu hadroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Mae'r grŵp trawsbleidiol wedi cwrdd ar bum achlysur ers diwedd Mehefin.

Roedd y grŵp, sy'n cynnwys pum plaid wleidyddol, Comisiwn y Senedd, y Comisiwn Etholiad, a llywodraethau Cymru a'r DU, yn ystyried a ddylid gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth etholiad "er mwyn sicrhau fod yr etholiad yn cael ei chynnal mewn modd diogel".

Mae adroddiad drafft sydd wedi ei weld gan BBC Cymru yn dweud fod yna gonsensws ynglŷn ag:

  • annog pobl sy'n gwarchod rhag Covid-19 i wneud cais am bleidlais bost;

  • mwy o hyblygrwydd i bleidleisio trwy ddirprwy, fel bod unigolyn yn gallu pleidleisio ar ran mwy nag un person;

  • caniatáu i bobl bleidleisio hyd yn oed os ydyn nhw'n byw dan gyfyngiadau lleol.