Canser y fron: Rhybudd am ddiffyg profion
- Cyhoeddwyd

Mae elusen wedi rhybuddio y gallai fod hyd at 300 o fenywod "gyda chanser y fron heb fod yn wybod" oherwydd bod gwasanaethau sgrinio wedi eu hatal yn y cyfnod clo.
Mae elusen Tenovus yn amcangyfrif bod 30,000 wedi methu prawf mamogram rhwng Mawrth a Gorffennaf, ac maen nhw'n poeni y bydd hynny'n cael ei ailadrodd wrtho i nifer yr achosion o coronafeirws gynyddu eto.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod wedi gweithio'n galed i sicrhau bod gwaith sgrinio'n gallu parhau.
Cafodd sgrinio am ganser y fron ei atal ym mis Mawrth wrth i'r Gwasanaeth Iechyd ymateb i bwysau eithriadol y pandemig.
Daeth y gwasanaeth yn ôl fis Awst, ond dywedodd Judi Rhys - prif weithredwr Tenovus - bod oddeutu 30,000 wedi methu cael apwyntiad sgrinio dros y cyfnod yna.

Judi Rhys yw prif weithredwr elusen Tenovus
Dywedodd: "Fe fyddai tua 30,000 o fenywod wedi cael eu cyfeirio am brofion pellach dros y cyfnod yna.
"Mae hynny'n golygu bod 300 o fenywod yng Nghymru yn mynd o gwmpas gyda chanser y fron sydd heb ei ddarganfod ar hyn o bryd.
"Ry'n ni'n gwybod bod y rhagolygon yn llawer gwell pan mae diagnosis o ganser y fron yn gynnar. Os yw pobl yn sylwi ar unrhyw beth, byddwn yn eu hannog i wneud apwyntiad gyda'u meddyg teulu.
"Gyda Covid ar gynnydd eto, ry'n ni'n poeni y bydd pobl yn rhy ofnus i ddod ymlaen, neu y bydd angen oedi gwasanaethau eto."

'Rwy'n ddiolchgar mod i yma'

Cafodd Claire Williams, 39 oed o Abertawe, wybod y gallai fod wedi marw o ganser y fron pe na bai wedi cael triniaeth pan gafodd hi.
"O edrych nôl dros y 18 mis diwethaf, rwy'n ddiolchgar iawn mod i yma o hyd," meddai.
"Ac rwy'n ddiolchgar bydd fy mhlant yn tyfu gyda fi yn eu bywydau."
Gallai pethau fod wedi bod mor wahanol pan ddaeth Ms Williams o hyd i lwmp ar ei bron y llynedd.
Clywodd y byddai'n rhaid disgwyl naw wythnos am brofion pellach ar y GIG, ond mi fedrodd gael triniaeth yn breifat drwy ei chyflogwr.
O fewn dwy awr i weld arbenigwr clywodd fod ganddi ganser y fron ac y byddai angen cemotherapi, radiotherapi a mastectomi.

Ychwanegodd Ms Rhys bod y GIG yn y broses o glirio tagfa o 30,000 o apwyntiadau sgrinio.
Ond dywedodd ei bod yn hanfodol fod pobl yn parhau i gael eu sgrinio, hyd yn oed os daw cyfnod clo arall.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi gweithredu er mwyn sicrhau bod staff a chleifion yn glir o coronafeirws, ac maen nhw'n annog pobl i fynd i'w hapwyntiadau sgrinio.
Ychwanegodd: "Mae'r GIG wedi gwneud gwaith eang i sicrhau y gall cymaint o ofal canser â phosibl barhau yn ystod y pandemig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020
- Cyhoeddwyd13 Awst 2020