Cyfyngiadau yn ddryslyd i dafarn sydd ar ffin dwy sir
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog tafarn sydd ar y ffin rhwng siroedd Powys a Chastell-nedd Port Talbot wedi cwyno bod cyfyngiadau lleol yn ddryslyd a'i fod yn wynebu mwy o ansicrwydd nawr nag ar ddechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth.
Mae teulu Steffan Rees wedi bod yn rhedeg tafarn y New Tredegar ym mhen uchaf Cwm Tawe yng nghysgod Bannau Brycheiniog ers 1991.
Fel arfer mae'r dafarn yn denu pobl yr ardal ac ymwelwyr ond ers dechrau'r pandemig a chyfyngiadau lleol yn sgil hynny mae'r dafarn a'r bwyty yn dawelach na'r arfer ar hyn o bryd.
Wrth egluro union leoliad y dafarn dywedodd Mr Rees nad yw hanner y bobl sy'n byw yn ei bentref yn gallu dod mewn i'w dafarn oherwydd cyfyngiadau lleol.
"Ble ry'n ni'n sefyll nawr, ni ym Mhowys, ond os gerddwn ni mas mewn i ganol yr afon tu cefn y dafarn yn fanna ma' ffin Sir Castell-nedd Port Talbot," meddai.
Poeni am y dyfodol
Mae cyfyngiadau lleol yn rhannu'r gymuned.
Ar hyn o bryd mae Sir Castell-nedd Port Talbot yn un o'r siroedd lle mae cyfyngiadau lleol mewn grym, felly does dim hawl gan bobl yno i adael y sir heblaw am reswm dilys fel mynd i'r gwaith neu i'r ysgol.
"Mae hynny yn anodd ac yn ddryslyd i'r cymdogion a busnesau sydd dros y ffin ym Mhowys," medd Mr Rees.
"Lan fan hyn yng Nghwm Tawe - ni fel un gymuned - ond ni'n cael ein rhannu ac mae e yn ddryslyd i bobl.
"Mae lot o bobl ddim wedi bod mas ar wahân i ddod fan hyn achos bod nhw yn teimlo yn saff 'ma ac mae nifer ohonyn nhw ddim ond yn byw hanner milltir lawr yr hewl."
Ychwanegodd: "Fi ddim yn gw'bod be sy'n digwydd gyda'r cyfyngiadau newydd. Fi ddim yn siŵr os yw e yn well neu ydyn ni mynd nôl.
"Mae llai yn dod mewn i'r dafarn... lot o bookings ddim wedi dod mewn. Mae'r rhan fwya' o bobl fan hyn yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot."
Tra'n derbyn y rhesymau am y cyfyngiadau a hefyd yn cydnabod mai mesurau dros dro yw'r rhain mae Mr Rees yn poeni ynglŷn â beth sydd i ddod.
"Fi'n gw'bod taw dim ond pythefnos yw e, ond be sy'n digwydd os aiff Powys mewn i lockdown?
"Ni'n lwcus bo' ni'n rhedeg y busnes fel teulu, felly ni'n gallu torri lawr tamed bach a neud lot o bethe ein hunain.
"Byddwn ni yn ok fi meddwl. Ond fi yn becso gallai lot o fusnesau sy ar y ffin fel ni fan hyn gael hi'n galed iawn i ddelio â hwn."
Wrth edrych ymlaen mae Mr Rees hefyd yn edrych yn ôl ac yn cyfaddef ei fod e'n credu fod pethau yn waeth nawr na phan ddechreuodd y pandemig ym mis Mawrth.
"Mae mwy o ansicrwydd. S'dim sôn am ddiwedd a s'dim sôn am lot o gymorth. S'neb yn gw'bod pa mor hir aiff hwn mla'n... mae e'n galed yn dyw e?"
"S'dim pwynt bod ar agor a gofyn am help bob mis. Felly be' ni fod i 'neud? S'neb yn gw'bod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020