Canolfan fusnes yn Llanrwst i gau yn sgil Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Glasdir
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Glasdir yn cael ei rhedeg fel menter gymdeithasol gan gyflogi dau weithiwr llawn amser a phedwar rhan amser

Bydd canolfan fusnes a chynadleddau yn Llanrwst yn cau ddiwedd y mis a hynny yn uniongyrchol oherwydd y pandemig.

Does 'na ddim byd wedi cael ei drefnu yng Nghanolfan Glasdir ers misoedd, ac wrth i'r argyfwng Covid barhau dydy'r rhagolygon o allu ailddechrau cynnal digwyddiadau ddim yn addawol.

Bydd chwech o swyddi llawn a rhan amser yn cael eu colli a'r ganolfan yn cael ei throsglwyddo yn ôl i Gyngor Conwy.

Dywedodd Paul Williams, un o gyfarwyddwyr Menter Datblygu Conwy Wledig sy'n rhedeg y ganolfan, bod dim dewis ond dirwyn y cwmni i ben.

Disgrifiad o’r llun,

Edrychodd y bwrdd rheoli ar opsiynau eraill cyn y penderfyniad i gau, medd Paul Williams

"Ers y clo 'den ni wedi methu cynnal unrhyw weithgareddau yma oherwydd cyfyngiadau," meddai.

"Fel cyfarwyddwyr, 'den ni wedi bod yn edrych ar bob math o bethau eraill... os oedd 'na bosib gwneud unrhyw beth arall efo'r adeilad.

"Ond yn anffodus mae'r cyfyngiadau yn dal yn eu lle sy'n golygu na fedrwn ni gynnal cynadleddau na dim byd tebyg yma.

"Fel cwmni cymdeithasol 'den ni wedi gorfod cymryd y penderfyniad i weindio y cwmni i lawr erbyn diwedd y mis i wneud yn siŵr bod ein goblygiadau ni i'r staff ac i unrhyw gwmnïau eraill yn yr ardal yn cael eu cyrraedd."

'Mae'n drueni mawr'

Cyngor Sirol Bwrdeistref Conwy sy'n berchen ar yr adeilad ac mi fydd yn cael ei drosglwyddo yn ôl iddynt.

"Mae'n drueni mawr fod Menter Gymdeithasol Glasdir wedi gorfod gwneud y penderfyniad yma," meddai'r Cynghorydd Goronwy Edwards, yr aelod o gabinet y cyngor sy'n gyfrifol am faterion datblygu economaidd.

"Ond rwy'n deall yr anawsterau mae'r diwydiant cynadleddau a digwyddiadau wedi'u profi eleni o ganlyniad i Covid-19.

"Byddwn yn parhau i gefnogi a gweithio'n agos gyda'r bwrdd wrth iddynt ddod â'r cwmni i ben."