Geraint Thomas yn llithro ar botel ddŵr yn y Giro d'Italia

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas ar ei feicFfynhonnell y llun, Ineos Grenadiers/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geraint Thomas yn y trydydd safle cyn cychwyn y trydydd cymal

Mae gobeithion y Cymro Geraint Thomas o ennill ras y Giro d'Italia wedi cael eu chwalu ar ôl iddo ddod oddi ar ei feic ar ddechrau'r trydydd cymal.

Mae Thomas, sy'n beicio gyda thîm Ineos Grenadiers, wedi colli dros 12 munud ar ôl i botel ddiod ddod o dan ei olwyn flaen ac achosi iddo lithro.

Digwyddodd yr anffawd wrth i'r cystadleuwyr ymgynnull yn y parth niwtraleiddio cyn dechrau'r cymal oedd yn mynd a'r seiclwyr ar hyd llwybrau mynyddig llosgfynydd Sicilia.

Er iddo lanio ar ei glun a rhwygo ei git roedd yn ymddangos yn ddigon cyffyrddus yn ystod y milltiroedd cyntaf.

Ond wrth i'r cymal fynd yn ei flaen fe syrthiodd Thomas, 34, yn ôl o'r peloton tua 25km cyn diwedd y ras.

Roedd Thomas yn drydydd cyn y cymal.

Gyda 18 diwrnod o rasio ar ôl, mae Thomas bellach 11 munud 17 eiliad ar ei hôl hi ac yn anhebygol o allu dringo'n ôl i blith y seiclwyr ar frig y gystadleuaeth.