Dileu cwarantin i nifer o ynysoedd Groeg
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn eu hadolygiad wythnosol o wledydd lle mae angen i deithwyr hunan ynysu wrth gyrraedd Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi eithrio sawl ynys Roegaidd.
Cafodd nifer o ynysoedd Groeg eu hychwanegu at y rhestr cwarantin ym mis Medi, ond mae'r sefyllfa yno wedi newid i'r fath raddau fel eu bod bellach yn cael eu hystyried yn ddiogel unwaith eto.
Yr ynysoedd dan sylw yw Paros ac Antiparos, Lesvos, Santorini, Milos (gan gynnwys ynys Serifos), Tinos a Zakynthos.
Fe ddaw'r rheolau newydd i rym am 04:00 ddydd Sadwrn, 10 Hydref, ac felly ni fydd rhaid i unrhyw un sy'n cyrraedd Cymru o'r ynysoedd yna hunan ynysu.