Teyrnged teulu i beiriannydd fu farw ar ôl syrthio i afon yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn a fu farw ar ôl iddo syrthio i afon yn Abergwyngregyn, Gwynedd.
Bu farw Alun Owen, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel Al Bonc, 32 oed, wrth weithio fel peiriannydd i Openreach ar 6 Hydref.
Dywedodd y teulu bod "dim geiriau i ddisgrifio'r boen o golli Al", a'u bod nhw'n "hollol dorcalonnus, a'n brwydro i geisio gwneud synnwyr o ddigwyddiadau trasig y diwrnod yna".
Mewn datganiad dywedodd y teulu bod "ganddo'r gallu i oleuo hyd yn oed y dyddiau tywyllaf ac mae 'na fwlch enfawr yn ein bywydau hebddo".
Roedd Mr Owen yn ŵr ac yn dad i ddwy ferch ifanc.
Dywedodd y teulu bod "pawb oedd yn ddigon ffodus i'w nabod yn fuan yn dod i feddwl amdano fel cymeriad llawn bywyd" a llawn hiwmor.
Ychwanegodd y teulu eu bod nhw am ddiolch i bawb am yr holl gefnogaeth ac i'r gwasanaethau argyfwng.
Mae teyrngedau lleol hefyd wedi eu rhoi gan glybiau chwaraeon lleol yr ardal.
Ar Twitter, dywedodd Clwb Rygbi Bethesda: "Mewn galar dwys yr ydym ni fel teulu CR Bethesda yn cydymdeimlo o waelod calon gyda theulu Al (Bonc).
"All geiriau fyth wir gyfleu ein dychryn a'n tristwch o golli aelod mor weithgar ac annwyl ond nid yw'n colled ni yn ddim o'i gymharu â cholled ei deulu."
Dywedodd Clwb Criced Bethesda: "Cydymdeimlwn yn ddwys fel clwb gyda theulu Alun 'Bonc' Owen yn dilyn y ddamwain dorcalonnus yr wythnos hon.
"Ergyd enfawr i'r teulu a'r ardal gyfan."
Ers marwolaeth Mr Owen, mae tudalen Go Fund Me wedi casglu dros £43,000 ar gyfer y teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020