'Mae llawer o bobl ddim yn disgwyl i fi siarad Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
Sut mae sgwrsio efo dysgwyr Cymraeg? Ydy'r termau 'dysgwr' a 'rhugl' yn ddefnyddiol? Ydy hi'n anoddach ffitio mewn fel siaradwr Cymraeg os nad wyt ti'n wyn?
Dyma rai o'r cwestiynau mae Kai Saraceno o'r Ffindir, dolen allanol wedi bod yn eu gofyn i dri sydd wedi dysgu Cymraeg, ar Raglen Aled Hughes, Radio Cymru, fel rhan o wythnos #DathluDysguCymraeg.
Shaun McGovern, Caernarfon
Mae Shaun yn dod o Maryland ger Washington DC yn yr Unol Daleithiau. Dechreuodd ddysgu Cymraeg tra'n byw yn Ffrainc ar ôl cyfarfod Cymraes a chlywed miwsig Cymraeg a phenderfynodd ddysgu er mwyn deall geiriau ei hoff fandiau fel Sibrydion, Yr Eira, Los Blancos, Mellt a Tynal Tywyll.
Mae byw yng Nghaernarfon ac yn astudio dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor.
Beth sy'n dy wneud yn rhwystredig?
Yma yn y gogledd mae'n edrych fel bod pawb yn 'nabod pawb yn barod. Dwi'n dod o Washington DC a mae 'na lot o bobl yna, mae pawb yn 'nabod pawb yn fama so mae'n rili gwahanol yma ... 'O dwi'n nabod dy nain!', 'dwi'n nabod dy chwaer hefyd'.
Dwi'n newydd yma so dwi ddim yn 'nabod lot o bobl so mae'n anodd i ddechrau sgwrs naturiol am fyw yma.
Dwi'n teimlo weithiau dwi'n dod i'r parti heb 'invitation'...
Beth yw'r ymateb wyt ti'n gael gan bobli'r ffaith dy fod yn dysgu Cymraeg?
Dwi'n meddwl bod nhw'n hapus, dwi ddim yn siŵr, achos dwi'n teimlo weithiau dwi'n dod i'r parti heb invitation dipyn bach, achos dwi ddim yn gwybod am dim lot o culture Cymreig a Cymraeg hefyd.
Dwi'n trio dysgu, dwi'n gwatsiad S4C, dwi'n lyfio C'mon Midffîld. So dwi'n trio... become more Welsh!
So maen nhw'n hapus ond yn confused dwi'n meddwl - mae'n rywbeth newydd iddyn nhw gyfarfod rhywun sy'n dod o America sydd eisiau siarad Cymraeg a sydd eisiau dysgu am Gymru.
Beth allai siaradwyr Cymraeg ei wneud i helpu dysgwyr wrth siarad?
Paid â bod yn rhy surprised mod i'n siarad neu ddysgu Cymraeg achos pan 'dach chi'n stopio siarad yn normal mae'n rili anodd parhau i gael sgwrs naturiol.
So pan maen nhw'n gofyn 'pryd wnest ti ddechrau', 'pam wnest ti ddechrau' 'ers faint wnest ti ddechrau' mae 'na lot o focus arnaf fi a dwi ddim eisiau siarad am fi, dwi eisiau siarad am bethau naturiol.
Dwi'n licio pan mae pobl yn siarad yn glir efo fi... Dwi'n meddwl mai'r peth mwya' pwysig ydy siarad yn glir [yn hytrach nag araf], achos mae na lot o sŵn fel 'ch', 'rh' a 'll' sy' ddim yn existio yn Saesneg so dwi angen ymarfer clywed y sŵn.
Dim geiriau plant, ond geiriau syml i rywun sydd ddim efo background Cymraeg fatha fi.
Geraint Scourfield, Wrecsam
Roedd tad Geraint yn siaradwr Cymraeg ond gan ei fod yn gweithio i'r awyrlu roedd oddi cartref lawer o'r amser, felly gyda'i fam ddim yn siarad Cymraeg, cafodd Geraint ei fagu yn ddi-Gymraeg yn Lloegr, Cyprus ac yna ardal Wrecsam.
Dysgodd Gymraeg fel oedolyn wedi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Wrecsam yn 2011 ac mae'n dweud fod ei fod wedi newid ei fywyd a'i wneud yn gyflawn. Ond welwch chi fyth mohono'n ymgeisio am deitl Dysgwr y Flwyddyn:
Eglura beth wyt ti'n ei feddwl am gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn?
Dwi'n meddwl bod Dysgwr y Flwyddyn yn gystadleuaeth bwysig ac mae'n hwb mawr i'r iaith ond dwi ddim eisiau cystadlu fy hun achos dwi ddim yn meddwl bod siarad Cymraeg yn gystadleuaeth o gwbl. Dydi ennill gwobr am siarad Cymraeg ddim yn taro deuddeg i fi. Annog pobl i ddechrau dysgu sydd angen.
Y pwynt o ddysgu Cymraeg ydy siarad Cymraeg. A dwi'n teimlo bod cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn edrych tu hwnt i sut mae pobl yn siarad, mae ganddyn nhw i gyd straeon a maen nhw'n gwneud pethau ar gyfer y gymuned ac yn y blaen, a dwi'n edmygu nhw, ond dwi ddim eisiau bod yn eu mysg nhw, diolch yn fawr iawn.
Beth yw dy farn am y geiriau 'rhugl' a 'dysgwr'?
Ffordd dwi'n meddwl amdano fo os 'dach chi'n medru cael sgwrs 'dach chi'n siaradwr. Os 'dach chi'n medru siarad a chyfathrebu yn iawn 'dach chi'n rhugl. Does neb yn gwybod pob gair Cymraeg. Roedd fy nhad yn siarad Cymraeg iaith gyntaf efo'i chwiorydd ac oedd o'n gwylio S4C gyda'r nos efo geiriadur. Felly os oedd o dal yn dysgu Cymraeg yn ei saithdegau, ac oedd o'n rhugl, felly pam lai pawb fod yn rhugl.
Os 'dach chi'n medru siarad a chyfathrebu yn iawn 'dach chi'n rhugl.
Pryd wnest ti ddechrau teimlo fel 'siaradwr Cymraeg?'
Mae wedi digwydd yn ara' deg dros y blynyddoedd. 'Dach chi'n dysgu mwy a mwy bob blwyddyn a mynd yn fwy fwy rhugl, felly mae'n progressive. Dwi'n teimlo mod i'n dysgu mwy a mwy bob blwyddyn felly'n teimlo mod i'n ffitio mewn mwy a mwy.
Ydy pobl yn teimlo'n anghyfforddus yn siarad efo pobl sydd wedi dysgu?
Falle, yn y dyddiau cynnar, pan 'dach chi'n dechrau trio cael sgwrs efo pobl. Er enghraifft, aethon ni i Gaernarfon am ddiwrnod allan blynyddoedd yn ôl, ac o'n i wedi bod yn dysgu am lai na blwyddyn. Nes i drio siarad Cymraeg efo rywun tu ôl i'r cownter mewn siop ond oedden nhw'n siarad Saesneg pan o'n i'n trio siarad Cymraeg. Oedden nhw'n siarad Cymraeg efo'r person cyn fi yn y ciw felly o'n i'n gwbod bod nhw'n siarad Cymraeg ond oedden nhw'n siarad Saesneg i fi. Nes i adael y siop yn teimlo'n ddigalon, ond dydi hynna ddim yn digwydd yn aml o gwbl yn enwedig rŵan... dwi ddim yn poeni am y peth o gwbl rŵan.
Wyt ti'n teimlo'n fwy 'Cymraeg' ers cyrraedd y pwynt o allu siarad Cymraeg?
Yndw dwi yn, dwi'n teimlo fel Cymro go iawn rŵan ond dwi ddim yn fwy Cymraeg nag unrhyw un arall sy'n cyfrif eu hunain fel Cymro, ond mae 'na ryw fath o deimlad tu fewn - teimlo'n llawn mewn ffordd.
Beth yw dy gyngor i rywun sy'n dysgu Cymraeg
Ymarfer a siarad a treulio dy amser efo Cymraeg, darllen, gwrando ar y radio, gwylio rhaglenni ar y teledu, gneud popeth yn Gymraeg achos y mwy 'dach chi'n gneud i ymarfer Cymraeg y gwell 'dach chi'n gallu siarad. Mae'n syml mewn ffordd 'dydi?
Isata Kanneh, Llanidloes
Wedi ei geni yn Sierra Leone a'i magu yn Sir Fynwy, daw Isata o deulu wnaeth golli'r Gymraeg yng nghenhedlaeth ei hen fam-gu a thad-cu.
Er i'w mam ddysgu'r iaith fel oedolyn chafodd Isata ddim cyfle i wneud hynny tan chwe mlynedd yn ôl. Wedi 20 mlynedd o fyw yn Birmingham daeth i fyw i ganolbarth Cymru a dod â'r Gymraeg nôl i'r teulu.
Mae lot o ddysgwyr yn dweud eu bod nhw'n cael pobl yn newid sgwrs i'r Saesneg. Wyt ti wedi cael hynny?
Do, mae'n teimlo fel ti wedi ffaelu achos ti wedi siarad yn Gymraeg a mae'r person yn ateb yn Saesneg. Ond dwi'n meddwl falle weithiau dydi pobl ddim yn gwybod bod nhw'n wneud e achos maen nhw jyst yn trio helpu a dydyn ddim yn meddwl amdano fe. Dwi'n meddwl bod e'n bwysig fel dysgwyr inni ddeall pam mae pobl yn gwneud e.
Dwi'n meddwl weithiau ein bod ni fel dysgwyr yn eitha' bregus a rhaid inni fod yn fwy hyderus am y peth a deall pobl eraill ychydig bach mwy hefyd.
Ydy lliw croen yn cael effaith hefyd?
Mae'n anodd gwybod be' sy'n mynd drwy meddwl pobl eraill ond yn bendant mae llawer o bobl ddim yn disgwyl i fi siarad Cymraeg. A dwi wedi bod mewn sefyllfa lle dwi wedi siarad yn Gymraeg a mae'r person arall wedi edrych arna i fi fel, 'O waw!'.
Weithiau dwi'n gweld pethau ar y teledu neu ar y radio mae pobl yn dathlu person croenddu sy'n siarad Cymraeg a mae'n teimlo fel mae'n alien, mae'n beth arbennig iawn... mae'n normal deud y gwir! Sdim rheswm pam bod pobl groenddu ddim yn gallu siarad Cymraeg!
Ond ti ddim yn gweld llawer yn siarad Cymraeg. Dwi ddim wedi cyfarfod unrhyw un croenddu sy'n siarad Cymraeg yn y byd go iawn - so falle dydi e ddim yn normal! Ond dyle fe fod.
Falle o'n i eisiau siarad Cymraeg a dysgu Cymraeg achos o'n i eisiau ffitio mewn a profi oni'n Gymraes go iawn?
Ydy hynny'n gwneud iti deimlo'n anghyfforddus?
Weithiau, mae'n dibynnu sut dwi'n teimlo ar y dydd. Weithiau dwi'n teimlo'n hyderus, weithiau dwi ddim. Pan o'n i'n tyfu lan o'n ni bron yr unig teulu yn y dref oedd â croen du ac roedd yn eitha' anodd tyfu lan mewn tref hollol wyn. Achos roedd hyn yn y 70au a'r 80au. Felly roedd yn anodd a do'n i ddim yn meddwl mod i'n ffitio mewn. Felly weithie dwi'n teimlo'n eitha' anhyderus.
Falle o'n i eisiau siarad Cymraeg a dysgu Cymraeg achos o'n i eisiau ffitio mewn a profi o'n i'n Gymraes go iawn?
Dwi'n cofio mynd i rhywle yng Nghymru pan o'n i'n ifanc a dywedodd person, 'Ti ddim yn dod o Gymru'.
A dywedais i 'Ie, dwi'n dod o Sir Fynwy'.
A 'wedon nhw, 'A wel ie ti ddim yn rili dod o Gymru te'!
Felly o'n i'n teimlo o'n i'n person sydd ddim yn ffitio mewn dwy waith: achos o'n i'n groenddu ac o Sir Fynwy. Doedd bron neb yn ein hardal ni yn siarad Cymraeg. Oedd y profiad yna'n gwneud i fi weithiau deimlo'n ddihyder.
Ydy hi'n bwysig i rywun sy'n dysgu Cymraeg ffitio mewn 100% i'r gymuned Gymraeg?
Yr un peth dwi wedi dysgu trwy fy mywyd ydy sdim ots ti ddim yn ffitio mewn. Achos dwi ddim yn mynd i ffitio mewn yn llwyr unrhyw le, achos o'n i bob tro efallai ddim yn ddigon gwyn, ddim yn ddigon du, ddim yn ddigon o Gymraes...
Ond mae pob un person yn wahanol felly efallai mae pob un person yn teimlo 'run peth. Mae'n bwysig ffeindio lle lle rwyt ti'n teimlo'n gyfforddus, lle ti'n cael ffrindiau, gwneud y pethau ti eisiau gwneud.
Sdim ots am roi pwysau ar dy hun i wneud un peth yn llwyr achos ti ddim yn un peth, ti'n llawer o bethau.
Mae'r sgwrs lawn gyda Isata yn cael ei darlledu ar Ragflen Aled Hughes fore dydd Iau, 15 Hydref