Dim Ramsey i Gymru yn erbyn Bwlgaria nos Fercher

  • Cyhoeddwyd
RamseyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd yna ergyd arall i obeithion Ryan Giggs cyn i Gymru wynebu Bwlgaria yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd nos Fercher, wrth i Aaron Ramsey dynnu'n ôl o achos anaf.

Ramsey yw'r chwaraewr diweddaraf i fethu'r gêm o achos anaf, gyda'r ymosodwyr David Brooks, Kieffer Moore a Hal Robson-Kanu yn absennol o'r garfan wreiddiol o 27 chwaraewr.

Un arall fydd ddim yn chwarae yn y gêm yn stadiwm Vasil Levski yn Soffia ydy'r chwaraewr canol cae Joe Morrell - ag yntau hefyd wedi ei anafu.

Cyn y cyhoeddiad am Ramsey, roedd Giggs wedi wynebu talcen caled gyda chyn lleied o chwaraewyr ymosodol ar gael iddo.

"Rwy'n disgwyl gêm galed ond rydym yn barod am yr her," meddai.

"Dydy o ddim yn hawdd [chwarae tair gêm mewn chwe niwrnod] - llawer o jyglo gyda chwaraewyr, sicrhau eu bod wedi cael digon o funudau ond hefyd sicrhau eu bod yn dal yn eiddgar.

"Mae angen mwy o safon a phwyll arnom ni yn y traean olaf a mwy o gynigion at y gôl, a gobeithio y gwelwn ni hynny ym Mwlgaria.

"Os nad ydym ar ein gorau, fe fydd yn gêm anodd, felly mae'n rhaid i ni fod ar ein gorau ac mae'r chwaraewyr yn gwybod hynny."

Newid agwedd

Ychwanegodd Giggs fod angen i Gymru newid eu hagwedd yn erbyn eu gwrthwynebwyr, ond bydd hynny'n anorfod gyda Kieffer Moore allan o'r garfan.

"Yr ergyd i ni y tro yma oedd Hal Robson-Kanu yn torri ei fraich, ac roedd wedi chwarae'n dda iawn yn erbyn Bwlgaria'r tro diwethaf.

"Fe fydd yn ffordd wahanol o chwarae ond gobeithio y byddwn yn iawn."

Fe allai absenoldeb Moore olygu fod ymosodwr 21 oed Leeds, Tyler Roberts yn dechrau ar y noson.

"Mae'n gallu chwarae mewn sawl safle gwahanol, i Leeds mae wedi chwarae fel rhif 10, ar yr asgell, ymlaen, yn llydan i mi," ychwanegodd.