Cynghrair y Cenhedloedd: Iwerddon 0-0 Cymru
- Cyhoeddwyd

Aaron Ramsey yn methu credu na chafodd Cymru gic gosb am drosedd ar Ethan Ampadu
Mae Cymru'n parhau yn ddiguro yn grŵp B4 Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl gêm ddifflach yn Nulyn.
O ran pynciau trafod, uchafbwynt yr hanner cyntaf oedd galwadau gan Gymru am gic o'r smotyn pan gafodd Ethan Ampadu ei lorio wrth i'r gôl-geidwad Darren Randolph geisio cyrraedd y bêl.
Roedd yn rhaid aros tan y 55 munud cyn bod yna gyfle go iawn i'r naill dîm, gyda Shane Long yn penio dros y bar.
Yn hwyr yn gêm fe gafodd James McClean ei anfon o'r cae am ei ail drosedd.
Er i Gymru geisio am gôl hwyr i gipio'r fuddugoliaeth, roedd hon yn gêm lle nad oedd yr un o'r ddau dîm yn haeddu ennill.

Kieffer Moore yn cael cardyn melyn - sy'n golygu y bydd yn colli'r gêm yn erbyn Bwlgaria dydd Mercher
Er y perfformiad siomedig, golygai'r canlyniad fod Cymru'n parhau ar frig y grŵp ar ôl ennill eu dwy gêm gyntaf.
Bydd tîm Ryan Giggs yn chwarae erbyn Bwlgaria dydd Mercher.
Cyn dechrau'r gêm cyhoeddodd cymdeithas Bêl-droed Iwerddon nad oedd pum chwaraewr yn gallu cymryd rhan, ar ôl i un ohonynt brofi'n bositif i Covid-19
O ran Cymru, roedd Harry Wilson a Daniel James yn dychwelyd i'r tîm ar ôl cael seibiant yn y golled yn erbyn Lloegr. Hefyd yn dychwelyd oedd Aaron Ramsey.
Yn hwyr yn y gêm daeth David Brooks, Dylan Levitt a Neco Williams ar y cae, ond doedd na ddim gôl hwyr i Gymru y tro hwn fel digwyddodd yn erbyn Y Ffindir a Bwlgaria.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020